Manylion y penderfyniad
Communal Heating Charges 2023/25
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Ystyried y taliadau gwresogi arfaethedig yn eiddo'r cyngor gyda systemau gwresogi cymunedol ar gyfer 2024/25 cyn cymeradwyo.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol yn Sir y Fflint, gyda 417 o eiddo ar systemau gwresogi ardaloedd cymunedol.
Roedd y Cyngor wedi aildrafod y tariff tanwydd ar gyfer 2024/25 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2024. Roedd disgwyl i’r gyfradd i’w chodi am nwy ostwng o tua 51% dros y 12 mis nesaf. Roedd deiliaid contract cymunedol yn cael biliau yn seiliedig ar gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor ac er bod prisiau trydan a nwy yn parhau i fod ddwywaith yn uwch na phrisiau cyfartalog hanesyddol, roedd cyfraddau contract nwy y Cyngor yn awr yn lleihau o’u pwynt uchel yn 2022/23.
Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn. Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen i’r Cyngor alinio ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol i sicrhau eu bod yn adennill y gost yn llawn. Roedd y taliadau arfaethedig i'w hailgodi yn 2024/25 wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai’r Cyngor yn cyflwyno dull fesul cam yn 2024/25 o ran biliau unigol i bob contract cymunedol yn seiliedig ar ddefnydd gwirioneddol yn hytrach na phris cyfrannol oherwydd gofynion Rheoliadau’r Rhwydwaith Gwresogi (Mesur a Bilio).
Roedd y Cyngor wedi dechrau ar osod mesuryddion unigol ym mhob un o anheddau’r Cyngor o fewn y CRT, a oedd yn cael eu gwasanaethau gan system wresogi gymunedol. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu’r mesuryddion newydd â phorth er mwyn i’r Cyngor allu darparu datganiad cywir o ddefnydd ynni i ddeiliaid contract a chyflwyno eu biliau yn unol â hynny. Roedd y Cyngor hefyd wrthi’n gosod rheolyddion gwresogi ychwanegol yng nghartrefi deiliaid contract lle’r oedd hynny’n ymarferol, er mwyn iddynt allu rheoli a rheoleiddio eu gwres yn unigol. Byddai’r gwaith hynny wedi’i gwblhau o fewn blwyddyn ariannol 2024/25.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai a Chymunedau lle’r oedd y newidiadau arfaethedig i’r ffioedd gwresogi yn cael eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo. Bod yr holl newidiadau yn dod i rym o 31 Gorffennaf 2024.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2024
Dogfennau Atodol: