Manylion y penderfyniad

Welsh Language Standards Annual Monitoring Report 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2023/24 a darparu trosolwg o’r broses o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod angen i Gyngor Sir y Fflint lynu at Safonau’r Gymraeg, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2015.

 

Roedd yr Hysbysiad yn rhoi dyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut yr oedd wedi bodloni Safonau’r Gymraeg.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2023/24 ac roedd yn darparu trosolwg o gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.

 

            Darparodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau wybodaeth am fentrau mwy; recriwtio siaradwyr Cymraeg; meysydd i’w gwella; a chwynion. 

 

Yn ystod y 12 mis nesaf, roedd y Cyngor yn anelu i:

  • Ddatblygu Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg er mwyn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog.
  • Lleihau nifer y gweithwyr sy’n nodi nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg.
  • Parhau i lenwi hunanasesiadau yn erbyn Safonau’r Gymraeg i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i gydymffurfio.

 

            Byddai ardal ar y wefan fewnol i gyfeirio Aelodau a swyddogion at yr hyn oedd ar gael i’w cefnogi, megis brawddegau cyffredin.  Yn ogystal, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol ar y gost o ddarparu gwasanaethau cyfieithu mewn cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2023/24 yn cael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/06/2024

Dogfennau Atodol: