Manylion y penderfyniad
Future options: leisure, libraries, and museum services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Cyflwyno adroddiad ar y dewisiadau hirdymor ar gyfer darparu gwasanaethau a cheisio barn yr Aelodau ar y dewisiadau sydd ar gael.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg o drefniadau gweithredu presennol ar gyfer darpariaeth Gwasanaeth Hamdden, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd a gwerthusiad o opsiynau at y dyfodol ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Hamdden i’w ystyried a rhannu barn ar ddewisiadau a ffefrir i’r Cabinet.
Fe amlinellodd y Swyddog Gweithredol Strategol y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad ac eglurodd fod y trefniant ariannu gwreiddiol rhwng y Cyngor ac Aura wedi cychwyn ar 1 Medi 2017, ac fe gafodd ei ymestyn tan 31 Mawrth 2024 yn dilyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2021. Roedd yr estyniad terfynol yn golygu bod rhagor o amser i adfer ar ôl y Pandemig ac fe alluogodd amser i edrych ar y dewisiadau newydd o fis Ebrill 2024. Fe eglurwyd y byddai’n well pe byddai yna drefniant hirdymor rhwng y ddau barti, ac fe wnaed gwaith comisiynu i lywio’r broses gwneud penderfyniadau a oedd yn cynnwys adolygu meincnodi, asesu anghenion strategol a chyngor cyfreithiol.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth am gyngor Cyfundrefn Rheoli Cymhorthdal yr oedd y Cyngor wedi’i dderbyn a oedd yn eithaf newydd ac a oedd yn disodli’r Cymorth Gwladwriaethol gyda grant newydd a oedd yn cael ei ystyried yn gymhorthdal o ddiddordeb penodol oherwydd lefel y cyllid.
Gofynnodd Aelodau nifer o gwestiynau oedd yn ymdrin â’r meysydd canlynol:-
- Dichonoldeb yr opsiynau amlinellwyd yn yr adroddiad;
- Argaeledd adroddiadau gwerthuso dewisiadau i Aelodau;
- Effaith ariannol ar y Cyngor;
- Adferiad y diwydiant hamdden yn sgil effaith Covid;
- Cyfundrefn Rheoli Cymhorthdal; a
- Cais am wybodaeth ychwanegol cyn rhoi barn am y dewisiadau sydd wedi’u manylu yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn dilyn y drafodaeth a’r sylwadau a wnaed gan Aelodau, awgrymodd fod angen rhagor o wybodaeth ac y dylid eu diwygio i adlewyrchu hyn.
Yn dilyn trafodaeth, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion canlynol:-
- Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran darpariaeth gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd;
- Bod cynrychiolwyr FMG Consulting Ltd yn cael eu gwahodd i gyflwyno’r adroddiadau a gomisiynwyd i bob Aelod;
- Bod yr adroddiadau a gomisiynwyd, ynghyd â’r Cytundeb rhwng y Cyngor ac Aura a ddechreuodd ar 1 Medi, 2017 ar gael mewn lleoliad cyfrinachol, i bob Aelod eu gweld;
- Ar ôl gweld y dogfennau y gofynnwyd amdanynt a chyflwyniad FMG Consulting Ltd, bod cyfarfod arbennig o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, yn cael ei drefnu, gan wahodd pob Aelod o’r Cyngor i fynychu a chyfrannu, er mwyn gallu rhoi barn y Pwyllgor i’r Cabinet tra’n ystyried dewisiadau at y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd; a
- Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wrth i’r gwaith ddatblygu ac fel bo’r gofyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran darpariaeth gwasanaeth hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd;
(b) Bod cynrychiolwyr FMG Consulting Ltd yn cael eu gwahodd i gyflwyno’r adroddiadau a gomisiynwyd i bob Aelod;
(c) Bod yr adroddiadau a gomisiynwyd, ynghyd â’r Cytundeb rhwng y Cyngor ac Aura a ddechreuodd ar 1 Medi, 2017 ar gael mewn lleoliad cyfrinachol, i bob Aelod eu gweld;
(d) Ar ôl gweld y dogfennau y gofynnwyd amdanynt a chyflwyniad FMG Consulting Ltd, bod cyfarfod arbennig o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, yn cael ei drefnu, gan wahodd pob Aelod o’r Cyngor i fynychu a chyfrannu, er mwyn gallu cyfleu barn y Pwyllgor i’r Cabinet tra’n ystyried dewisiadau at y dyfodol ar gyfer gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd; a
(e) Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wrth i’r gwaith ddatblygu ac fel bo’r gofyn.
Awdur yr adroddiad: Damian Hughes
Dyddiad cyhoeddi: 27/01/2025
Dyddiad y penderfyniad: 10/05/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/05/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant