Manylion y penderfyniad

Corporate Parenting Charter: A Promise for Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Ceisio cytundeb bod Cyngor Sir y Fflint y mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’.

Penderfyniadau:

Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones y Siarter Rhianta Corfforaethol, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru yn cael eu tanategu gan rymuso, cydraddoldeb, dim gwahaniaethu, cyfranogiad, ac atebolrwydd ac amddiffyn.  Gofynnwyd i’r aelodau ailddatgan eu cyfrifoldeb ar y cyd fel ‘rhieni corfforaethol’ drwy fabwysiadu’r Siarter, gydag ymrwymiad i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fesur llwyddiant sefydliadol ac ymrwymiad i’r Siarter.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Chris Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod Cyngor Sir y Fflint yn llofnodi’r ‘addewid’ a mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’; a

 

(b)       Bod y Fforwm Gwasanaethau Plant yn arwain y gwaith o fesur llwyddiant ac ymrwymiad sefydliadol i’r Siarter Rhianta Corfforaethol.

Awdur yr adroddiad: Administrator

Dyddiad cyhoeddi: 15/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/05/2024 - Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau Atodol: