Manylion y penderfyniad
Social Value Update Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To present an update report on social value.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod cynhyrchu gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu a chaffael y Cyngor yn cyfrannu’n sylweddol at gynyddu gwerth cymdeithasol a darparu gwerth ychwanegol, felly roedd yn parhau i fod yn faes ffocws allweddol ar gyfer y Cyngor.
Mae’r adroddiad yn amlinellu data perfformiad chwe mis olaf blwyddyn ariannol 2022/23, ynghyd â chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2023/24. Roedd yr adroddiad hefyd yn crynhoi’r meysydd canolbwynt nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod 2024/25.
Roedd y terfynau amser presennol ar gyfer adrodd yn golygu ei bod yn anodd adrodd ar flwyddyn ariannol gyfan. Argymhellir er mwyn alinio adroddiadau perfformiad gyda’r flwyddyn ariannol y bydd angen newid mewn amseroedd adrodd ar gyfer y dyfodol. Argymhellwyd y dylid cyflwyno adroddiad ar gyfer chwarter 3 a 4 2023/24 ym mis Medi 2024 ac yna symud i adroddiad blynyddol ym mis Mai neu fis Mehefin bob blwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas â chreu gwerth cymdeithasol ar gyfer chwarter tri a phedwar yn y flwyddyn ariannol 2022/23, yn ogystal â dau chwarter cyntaf 2023/24;
(b) Cefnogi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad; ac
(c) Er mwyn alinio adroddiadau perfformiad gyda’r flwyddyn ariannol, cymeradwyo adroddiad perfformiad gwerth cymdeithasol blynyddol sy’n cael ei gyflwyno ym mis Mehefin bob blwyddyn.
Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/03/2024
Dogfennau Atodol: