Manylion y penderfyniad

RISCA Responsible Individuals Annual Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide an update of the performance of the in-house provider services in respect of the Regulation for Inspection of Social Care Act (RISCA).

Penderfyniadau:

Fe gyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol ei hun fel yr Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Sir y Fflint a oedd yn sicrhau fod gwasanaethau darparwyr yn bodloni’r gofynion statudol fel y nodir yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016 (RISCA).  Adroddodd sut roedd y gwasanaethau mewnol rheoledig a restrir isod wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf:

 

·      Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl H?n – Marleyfield House, Llys Gwenffrwd a Croes Atti

·      Tai Gofal Ychwanegol – Llys Eleanor, Llys Jasmine, Llys Raddington, Plas Yr Ywen.

Ywen.

·      Cefnogaeth Gymunedol i Bobl H?n – ardaloedd Treffynnon, Glannau Dyfrdwy a’r Wyddgrug.

·      Seibiant tymor byr i bobl ag anableddau dysgu – Hafod a Woodlee.

·      Byw â Chymorth – 17 cartref ar hyd a lled Sir y Fflint

 

A hyd at yn ddiweddar

 

·      Gwasanaethau Plant - T? Nyth, Park Avenue a’r Cartrefi Grwpiau Bychan.  Ond o ganlyniad i faint y portffolio mae Melvin Jones wedi ei benodi fel yr Unigolyn Cyfrifol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Swyddog Cyfrifol fod staffio yn her ac ers y pandemig roedd yna 50,000 yn llai o weithwyr gofal ar draws y DU.  Dywedodd fod blaenoriaeth wedi ei roi i staffio a’u bod wedi dechrau gweld ychydig o welliant er bod y cyflog yn her o ran cadw staff.  Eglurodd fod y staff yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, yn arbennig os oeddent wedi cael diwrnod heriol.  Dywedodd mai un fantais i staff oedd eu bod yn gallu defnyddio un o’r 6 car trydan ar sail rota i atal traul ar eu car eu hunain a hefyd roedd yn eu galluogi i fynd i’r gwaith os oedd problem gyda’u car eu hunain. Dywedodd wrth aelodau eu bod yn ystyried cael mwy o geir yn y dyfodol. 

 

 Dywedodd fod yr 16 gwely yn Marleyfield yn welyau i bobl sydd wedi eu rhyddhau o’r ysbyty ac roedd anghenion unigolion yn cael eu hasesu yn Marleyfield House gan dîm gofal estynedig i gefnogi eu hasesiad a hefyd eu hailalluogi gan ystyried eu hanghenion yn y tymor hirach.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gyd-destun y gair heriol yn yr adroddiad mewn perthynas â’r 16 gwely yn Marleyfield ar gyfer rhyddhau’n uniongyrchol o’r ysbyty.  Eglurodd fod ffurfio partneriaeth gydag ysbytai yn anochel yn gallu achosi pwysau gan yr ysbytai ar y rheolwr yn Marleyfield pan maent yn ymwybodol fod gwelyau ar gael. Ychwanegodd eu bod dros y misoedd diwethaf wedi bod yn gweithredu yn gyson gyda 14 i 15 o welyau’n cael eu defnyddio.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Oedolion ei bod yn heriol ar brydiau i ddod o hyd i’r bobl briodol gyda’r potensial adferol os oeddent mewn gwely ysbyty acíwt gan fod pobl yn colli sgiliau’n gyflym ac yn colli annibyniaeth.  Eglurodd fod yna sgil benodol o ran adnabod y bobl sydd â’r potensial i ddod yn ôl i’w lleoliad a gwella a nododd fod pethau wedi gwella dros y 12 mis diwethaf o ran adnabod pobl yn gynnar yn eu taith, yn arbennig dros y 3 mis diwethaf a dyna sut roeddent wedi gallu llenwi’r 16 gwely hwnnw.  Ychwanegodd y byddant hefyd yn gweithio gyda 5 o bobl a fyddai wedi cael eu hanfon adref er mwyn iddynt fodloni eu hanghenion annibyniaeth a byddent hefyd yn asesu 5 arall i symud i un o’r gwelyau yn Marleyfield.

 

Wrth ymateb i’r mater a godwyd gan aelodau am brydau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Sir y Fflint ei fod wedi cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Cater Plus a oedd yn darparu’r prydau ac eglurodd ei fod yn hapus iddynt reoli gwelliannau ond y byddai yn codi hyn gydag aelodau a dywedodd fod rhai gwelliannau wedi eu gwneud.

 

Cadarnhaodd fod yna restr aros ar gyfer gofal tymor byr a’u bod yn ystyried defnyddio rhai o’r Cartrefi Gofal Preswyl gan fod rhai o’r oedolion gydag anableddau cyfyngedig yn mynd yn h?n ac fe fyddai’n fwy addas iddynt gael seibiant yn rhywle fel Marleyfield House ac roedd yn obeithiol y byddai’r Croes Atti newydd ag ychydig o ddarpariaeth seibiant i oedolion gydag anableddau dysgu.

           

Wrth ymateb i nifer o gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Swyddog Cyfrifol ei fod yn gyfrifol am y ddarpariaeth fewnol ac yn cynnal archwiliadau anffurfiol yn ogystal â ffurfiol o’r cartrefi hynny tra bod y sector preifat yn cael ei lywodraethu mewn ffordd wahanol ond roedd ganddynt hwy hefyd unigolion cyfrifol sy’n mynd allan i archwilio eu cartrefi.  Dywedodd eu bod wrth recriwtio staff yn chwilio am bobl gyda’r gwerthoedd a’r foeseg gywir a bod ganddynt raglen hyfforddi gynhwysfawr a bod angen i staff fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  Cadarnhaodd fod Ysbyty Iarlles Caer wedi gwneud cyfraniad am y defnydd o welyau yn Marleyfield House.

 

Wrth ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Ellis dywedodd y Rheolwr ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Swyddog Cyfrifol fod tua 38 o leoedd gwag wedi bod yn y gwasanaethau oedolion a phlant, ond o ran canran roedd ychydig yn uwch yn y Gwasanaethau Plant lle roedd 18 o leoedd gwag ar hyn o bryd.  Dywedodd nad oeddent yn defnyddio staff asiantaeth i lenwi’r bwlch, roedd ganddynt gapasiti cyfyngedig ac eglurodd eu bod yn cefnogi 6 o blant ar hyn o bryd yn hytrach na 10 ac y byddai nifer y plant maent yn eu cefnogi yn cynyddu gyda’r lefel iawn o staff.

 

Cadarnhaodd fod ganddynt 20 o leoedd gwag ar draws y bwrdd yn y gwasanaethau oedolion.  Dywedodd fod ganddynt staff asiantaeth o ansawdd da ond eu bod yn her ariannol i’r Cyngor ac y byddai ganddynt fwy o reolaeth a mwy o barhad o ran gofal gyda’u staff eu hunain.  Hefyd roedd yna derfyn ar yr oriau ychwanegol roedd rhaid i staff eu cyflenwi.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Oedolion bod ganddynt raglen dreigl o ran recriwtio a’u bod yn defnyddio Cwmni Marchnata a oedd wedi datblygu fideo llawn gwybodaeth a oedd ar wefan y Cyngor. Hefyd roeddent wedi bod yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ymwneud â recriwtio ac roeddent hefyd wedi bod yn ystyried sut roeddent yn hysbysebu gan geisio gwneud disgrifiadau swyddi / y manylion am yr unigolyn mor ddeniadol â phosibl.  Roeddent wedi rhoi cynnig ar lawer o wahanol fannau i farchnata eu hunain i ddangos fod Sir y Fflint yn lle da i weithio ac roeddent hefyd wedi bod yn gweithio gydag AD i gyflymu’r broses recriwtio.

 

Wrth ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd McGuill dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Unigolyn Cyfrifol ei fod wedi cael sgwrs ag aelod o staff yn ddiweddar a ddywedodd ei fod yn mwynhau ei swydd o ganlyniad i’r berthynas oedd ganddo gyda’i reolwr a oedd yn deall yr hyn a ddisgwylid ohonynt a’i fod yn gallu mynd at ei reolwr os oedd ganddo broblem.

 

Yn nhermau’r fwydlen, roedd wedi gofyn am gryfhau’r cyfarfod rhwng y tenant a’r preswylwyr.   Cadarnhaodd eu bod yn cyfarfod gyda’r gegin, ond ei brif bryder oedd nad oedd digon o bobl yn mynychu’r cyfarfodydd a dywedodd ei fod wedi gofyn i reolwyr sicrhau fod hyn yn cael ei ehangu.

 

Nododd fod ymweliadau rota wedi eu cynnal tua 12 mis yn ôl a byddai’n codi hynny gyda’r tîm ac yn dechrau’r rhain eto.

 

Ymatebodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu i’r Cynghorydd Bateman yn ymwneud â’r ceir trydan a dywedodd fod grant wedi bod ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/2024 i gefnogi gweithwyr gofal cartref gyda theithio gan mai dyma oedd un o’r cyfyngiadau o ran recriwtio.  Dywedodd fod tua £760 i bob unigolyn nad oedd ganddynt drwydded yrru yn cael ei ddefnyddio o’r grant i dalu am eu gwersi a’u prawf ac roedd mwy o’r arian wedi ei ddefnyddio i brynu 3 char trydan drwy’r gwasanaethau fflyd a phan adolygwyd y sefyllfa penderfynwyd y byddai 3 arall o fudd ac felly nawr roedd ganddynt 6 o geir trydan gyda’r pwyntiau gwefru, y gellid ond eu defnyddio ar gyfer y ceir hynny ar sail ffob.

 

Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Sir y Fflint a fyddai’n well gan Aelodau gael adroddiad o fath adroddiad blynyddol mwy manwl ar gyfer y gwasanaeth gan nad oedd y fformat cyfredol yn rhoi llawer o gefndir ac nad oedd yn gwneud cyfiawnder gyda’r gwaith a oedd yn cael ei wneud, rhywbeth roedd yr aelodau’n ei groesawu.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Debbie Owen.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi a chymeradwyo’r adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson

Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 29/02/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau Atodol: