Manylion y penderfyniad

Internal Audit Progress Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers y diweddariad diwethaf, roedd dau adroddiad ‘Oren Coch’ (peth sicrwydd) wedi’u cyhoeddi ar Gardiau Credyd Corfforaethol a Datganiad o Gysylltiadau.  Roedd adroddiad ‘Coch’ (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gyhoeddi ar Daliadau Gohiriedig a Rheoli Rhwymedigaethau Gofal Preswyl ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yr oedd swyddogion perthnasol yn bresennol yn y cyfarfod ar ei gyfer.

 

Ar yr olaf, rhoddodd yr Uwch Archwilydd gefndir ar gwmpas yr adolygiad a chanfyddiadau allweddol cyn eu trosglwyddo i'r Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) i adrodd ar gynnydd gyda'r cynllun gweithredu manwl a gwaith ychwanegol a nodwyd i wella prosesau.  Diolchodd i gydweithwyr Archwilio Mewnol am eu cefnogaeth ar yr adolygiad.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cadeirydd, eglurodd yr Uwch Reolwr bod defnyddio matrics (fel yr argymhellwyd gan Archwilio Mewnol) yn fodd o gasglu a chofnodi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac y byddai'r system uwchraddedig yn gwella'r modd y caiff gwybodaeth reoli ei thrin.   Dywedodd hefyd y byddai ymgysylltu â chyfreithwyr allanol yn helpu i sicrhau gwybodaeth gyson am daliadau eiddo.

 

Diolchodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst i'r swyddog am yr ymateb cadarnhaol.   Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Uwch Reolwr tra bod yr archwiliad wedi canfod anghysondebau gyda goruchwyliaeth rheolwyr, nid oedd unrhyw effaith ariannol oherwydd gwaith diwyd ar adennill dyledion gan y tîm Gorfodaeth a chyngor cyfreithiol allanol.

 

Croesawodd Sally Ellis y cynllun gweithredu manwl a gofynnodd am gyfleoedd i rannu dulliau ag awdurdodau eraill a oedd yn defnyddio'r un systemau.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod trafodaethau wedi'u cynnal mewn cyfarfodydd rhwydwaith ac y byddai profi achosion mewn cyfarfodydd mewnol rheolaidd yn helpu i nodi gwelliannau pellach.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar yr adroddiad sicrwydd cyfyngedig ar gardiau Credyd Corfforaethol, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn dilyn adolygiad gan y tîm rheoli Addysg, fod y defnydd o gardiau credyd mewn ysgolion wedi'i dynnu'n ôl.

 

Yn dilyn pryderon ynghylch yr olaf gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol gyd-destun ar y mathau o ddefnydd cardiau credyd corfforaethol sydd eu hangen ar draws yr awdurdod.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Brian Harvey a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill

Dyddiad cyhoeddi: 19/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 10/04/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/04/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Atodol: