Manylion y penderfyniad
Council Tax Setting for 2024/25
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To set the Council Tax charges for 2024-25 as part of the Council’s wider budget strategy.
Penderfyniadau:
Cafwyd adroddiad i bennu taliadau Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiedig yn ffurfiol ar gyfer 2024/25 fel rhan o strategaeth ehangach y gyllideb ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol. Roedd lefel gyffredinol Treth y Cyngor yn cynnwys tri phraesept ar wahân a osodwyd gan (i) y Cyngor Sir, (ii) Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r (iii) holl Gynghorau Tref/Cymuned a oedd yn llunio cyfanswm y tâl a godwyd yn erbyn pob eiddo. Roedd yr adroddiad yn nodi’r praeseptiau i’w codi gan y Cyngor yn seiliedig ar gynnydd o un ai 9.0% neu 9.1% fel y nodir yn yr adroddiad blaenorol.
Cafodd yr argymhellion, yn seiliedig ar y dewis am gynnydd o 9.0%, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Helen Brown.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod diwygiad a gynigiwyd wedi hynny gan y Cynghorydd David Coggins Cogan ar newid y premiwm ar gyfer tai gwag hirdymor yn annilys o ganlyniad i’r penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol yn y rhaglen. Cynghorwyd ymhellach gan y Rheolwr Refeniw a Chaffael y byddai penderfyniad o’r fath ar y cam hwn yn codi nifer o risgiau sylweddol i’r Cyngor ac y byddai angen cyflwyno cynllun premiwm amgen o Ebrill 2025 i ganiatáu ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol pe byddai Aelodau yn dymuno mynd ymlaen â hyn.
Siaradodd y Cynghorydd Helen Brown o blaid y cais a fyddai’n golygu y byddai eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio eto.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylai’r diwygiad fod wedi ei gynnig fel rhan o’r ystyriaethau ar Dreth y Cyngor o fewn Cyllideb 2024/25 ac y gallai Aelodau fod yn dymuno ystyried yr awgrym a wnaed gan y Rheolwr Refeniw a Chaffael i ddilyn y broses gyfreithiol fel y ffordd ymlaen.
Wrth ymateb i sylwadau pellach, cymeradwyodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y cyngor a roddwyd gan swyddogion ac eglurodd y goblygiadau o newid sail Treth y Cyngor ar y cam hwn, gyda’r gyllideb eisoes wedi ei chymeradwyo.
Tynnodd y Cynghorydd Coggins Cogan ei ddiwygiad yn ôl yn dilyn hynny.
Wedi i’r Cynghorwyr Jones a Brown dynnu eu cynnig yn ôl, cynigiodd y Cynghorydd Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad wedi ei seilio ar gynnydd blynyddol cyffredinol o 9.0% gan ychwanegu fod y Cabinet yn ysgogi adolygiad o gynllun premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi dros y 12 mis nesaf. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell.
Yn dilyn cynnig ac eilio, cafwyd pleidlais a derbyniwyd y cynnig.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Treth y Cyngor 2024/25 yn cael ei osod yn seiliedig ar gynnydd o 9.0% yn ffioedd y Cyngor Sir, fel nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â rhoi gostyngiad yn lefel ffioedd Treth y Cyngor 2024/25 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Yn ogystal â hyn, pan nad yw eithriadau’n berthnasol, codi cyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 75% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar anheddau gwag hirdymor dynodedig a 100% ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2024; a
(c) Rhoi cymeradwyaeth i swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi heb eu talu; a
(d) Bod y Cabinet yn adolygu cynllun premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi dros y 12 mis nesaf.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 25/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2024 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: