Manylion y penderfyniad
Council Fund Budget 2024/25 - Final Closing Stage
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To set a legal and balanced budget for 2024/25 on the recommendation of Cabinet.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, a oedd yn ymdrin â’r canlynol:
· Gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon
· Y daith hyd yma...
· Newidiadau pellach i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25
· Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol 2024/25
· Datrysiadau Cyllidebol
o Cyllid Allanol Cyfun
o Gostyngiadau i Gostau Portffolios
o Gostyngiadau i Gostau Ysgolion
o Gostyngiadau Cost Eraill
o Treth y Cyngor
o Datrysiadau a Gynigiwyd yn Derfynol
o Dewis Arall o ran y Gyllideb (a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol)
· Treth y Cyngor 2024/25
· Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol
· Risgiau Agored yn 2024/25
· Cronfeydd Wrth Gefn
· Barn Broffesiynol a Sylwadau i Gloi
· Edrych i’r Dyfodol
· Y Camau Nesaf ac Amserlenni
Roedd y cyflwyniad yn nodi newidiadau ers y sefyllfa a adroddwyd fis Ionawr a oedd wedi ystyried effaith ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru. Wedi dwy sesiwn friffio i’r Aelodau ac wedi i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried cynigion lleihau costau ychwanegol, roedd gwaith wedi parhau i adolygu’r sefyllfa gyffredinol ynghyd â chyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyllid canlyniadol a ddisgwyliwyd gan Lywodraeth y DU. Cafwyd manylion yngl?n â chanlyniad y gwaith hwnnw yn yr adroddiad i’r Cabinet gyda datrysiadau arfaethedig terfynol i amlinellu sut y gallai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2024/25. Roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd blynyddol cyffredinol o 8% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ac 1.1% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol. Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 9.1% a roddai arenillion net ychwanegol cyffredinol o £9.072 miliwn yn 2024/25. Cafodd dadansoddiad o’r cynnig hwn a dewis a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol - a oedd yn gofyn am ddefnyddio’r Cyllid Allanol Cyfun ychwanegol gan Lywodraeth Cymru gyda chynnydd cyffredinol yn Nhreth y Cyngor o 9.0% - ei egluro yn y cyflwyniad.
Amlygwyd nifer o risgiau agored sylweddol ar gyfer 2024/25 ynghyd â diweddariad ar gronfeydd wrth gefn gan gynnwys atgoffa yngl?n â phwysigrwydd meithrin a chynnal cronfeydd wrth gefn i ddiogelu yn erbyn risgiau agored ac ar gyfer y tymor canolig yng ngoleuni’r setliadau llai a ragwelir ar gyfer 2025/26 a 2026/27.
Daeth y Prif Weithredwr â’r cyflwyniad i ben drwy adlewyrchu ar y risgiau cynyddol a’r heriau sy’n codi o’r setliad gwael gan Lywodraeth Cymru a’r angen am reolaeth ariannol gynyddol yn 2024/25 i ymateb i’r setliadau ariannol llai a ragwelir ar gyfer y dyfodol, gyda mwy o bwyslais ar drawsnewid gwasanaethau a lleihau cost.
Fel Arweinydd y Cyngor, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i bawb am eu mewnbwn ar y sefyllfa heriol o ran y gyllideb ac adleisiodd bryderon swyddogion am sefyllfa ariannol llywodraeth leol yn y dyfodol. Yn dilyn cyfarfod y Cabinet a’r trafodaethau gyda’r Gr?p Annibynnol yn gynharach yn ystod y dydd, fe gynigiodd y gyllideb amgen a nodwyd ym mharagraff 1.25 yr adroddiad a oedd yn cynnwys cynnydd cyffredinol blynyddol o 9.0% yn Nhreth y Cyngor.
Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Richard Jones a ddiolchodd i swyddogion, yn arbennig y rhai hynny yn y tîm Cyllid, am weithio gyda’r Gr?p Annibynnol ar y gyllideb amgen. Aeth ati i gydnabod y weinyddiaeth am gefnogi’r cynnig a chyfeiriodd at effaith y fformiwla gyllido a oedd angen ei hadolygu ar frys gan Lywodraeth Cymru.
Cydnabu’r Cynghorydd Paul Johnson y penderfyniadau anodd sydd eu hangen i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys. Siaradodd am effaith pwysau chwyddiannol, cynnydd yn y galw am wasanaethau a setliadau gwael a phwysigrwydd cryfhau cronfeydd wrth gefn i ddiogelu yn erbyn risgiau.
Cydnabuwyd ymdrechion y ddau gr?p gwleidyddol i ddod i gytundeb ar sefyllfa heriol o’r fath gan y Cynghorydd David Healey a alwodd am i’r holl Aelodau gydweithio.
Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd David Coggins Cogan, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y cynnydd dros dro yn y Cyllid Allanol Cyfun wedi bod yn is nag a ragwelwyd o ganlyniad i setiau data diwygiedig hwyr cyn cyfrif y fformiwla. Hefyd rhoddodd wybodaeth ar y disgwyliadau ar gyfer dyraniad y Cyngor o’r cyllid canlyniadol gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi ei gynnwys yn yr amcangyfrifiad ar gyllid, gan gynghori y byddai unrhyw newid yn cael ei gynnal gan gronfeydd wrth gefn.
Fe gyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y ffaith fod y Cyngor eto ymhlith yr awdurdodau a gaiff eu cyllido leiaf fesul pen o’r boblogaeth yng Nghymru gan arwain at osod y baich ariannol ar breswylwyr. Talodd deyrnged i’r Cynghorwyr Richard Jones ac Ian Roberts am gytuno ar yr hyn a ddisgrifiodd fel cyllideb gydweithredol.
Fe wnaed sylwadau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r diffyg arweinyddiaeth o ran y gyllideb a’r oedi o ran newid trawsffurfiol gan y weinyddiaeth. Fe aeth ymlaen i siarad o blaid diogelu ysgolion bach gwledig.
Siaradodd y Cynghorydd Carol Ellis am effaith y setliad isel gan Lywodraeth Cymru ar y Cyngor a phreswylwyr. Hefyd mynegodd siom tuag at bresenoldeb gwael Aelodau’r Senedd mewn cyfarfod a oedd wedi ei gynnal yn ddiweddar.
Siaradodd y Cynghorydd Bill Crease am yr anawsterau cynyddol i’r Cyngor o ganlyniad i’r setliad is na’r cyfartaledd gan Lywodraeth Cymru.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y lleihad mewn cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw dros y blynyddoedd ac annhegwch y fformiwla gyllido nad oedd yn gynaliadwy.
Mynegodd y Cynghorydd Sam Swash siom na ymgymrwyd â rhai o’i awgrymiadau a godwyd yn ystod y broses. Cwestiynodd pam na aed i’r afael â nifer o achosion o danwario adrannol fel rhan o’r datrysiadau cyllidebol a siaradodd yn erbyn camau penodol yr oedd yn teimlo nad oeddent er budd i gymunedau na thrigolion Sir y Fflint.
Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Banks sylw hefyd ar annhegwch y fformiwla gyllido a’r effaith anochel ar Dreth y Cyngor.
Wrth arfer ei hawl i ymateb, aeth y Cynghorydd Roberts ati i gydnabod yr effaith ar ysgolion a phreswylwyr a rhoddodd sicrwydd fod heriau cadarn wedi eu gwneud ar lefel weinidogol ar y sefyllfa ariannol.
Gofynnodd y Cynghorydd Andy Hughes am bleidlais wedi’i chofnodi ond ni chefnogwyd hyn gan y nifer ofynnol o Aelodau.
Cyflwynwyd argymhellion y Cabinet, a oedd eisoes wedi eu cynnig a’u heilio, fel a ganlyn i bleidlais ac fe’u cefnogwyd yn seiliedig ar ddewis amgen y gyllideb fel nodir ym mharagraff 1.25:
1. Bod y Cabinet yn nodi ac yn cymeradwyo'r gofyniad cyllidebol ychwanegol diwygiedig ar gyfer 2024/25;
2. Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion terfynol ar gyfer y gostyngiadau yn y costau a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;
3. Bod y Cabinet yn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor yn seiliedig ar y cyfrifiadau a’r ddau ddewis sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad;
4. Bod y Cabinet yn nodi’r risgiau agored sylweddol sy’n parhau i gael eu rheoli ym mlwyddyn ariannol 2024/25;
5. Bod y Cabinet yn argymell cynnydd blynyddol cyffredinol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25 wedi ei seilio ar y ddau ddewis a ddarperir;
6. Bod y Cabinet yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo’r cynnig ffurfiol ar Dreth y Cyngor gan ein bod ni bellach wedi cael gwybod am braeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint; a
7. Bod y Cabinet yn nodi’r rhagolygon tymor canolig fel sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Gofynnodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke am i’w phleidlais yn erbyn gael ei chofnodi.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod argymhellion y Cabinet ar gyfer cydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2024/25 yn cael eu cymeradwyo, yn seiliedig ar y dewis amgen a nodir ym mharagraff 1.25 yr adroddiad; a
(b) Bod lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25 fel yr argymhellir gan y Cabinet yn cael ei gymeradwyo, yn seiliedig ar y dewis amgen ar gyfer cynnydd blynyddol cyffredinol o 9.0%.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 25/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2024 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: