Manylion y penderfyniad

Council Fund Budget 2024/25 – Final Closing Stage

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To update on the final budget proposals for 2024/25 for recommendation to County Council.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod y gwaith sydd wedi digwydd ers mis Gorffennaf 2023, yn darparu adroddiadau diweddaru rheolaidd ar sefyllfa cyllideb heriol y Cyngor ar gyfer 2024/25, wedi dod i ben.  Manylwyd ar ganlyniad y gwaith hwnnw yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi cynnig gan y Cabinet i'r Cyngor allu cyrraedd sefyllfa gyllidebol

gyfreithiol a chytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Roedd yr adroddiad hefyd yn

cynnwys opsiwn arall yn dilyn derbyn cynnig gan y Gr?p

Annibynnol.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi argymhellion Treth y Cyngor ar gyfer pennu lefelau trethiant

lleol ar gyfer 2024/25 a fyddai’n cael eu cynnig yn ffurfiol yn y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yn dilyn hysbysiad o braeseptau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’r holl Gynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.

 

Gwahoddwyd y Cabinet i wneud argymhellion terfynol i'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y manylion a nodir yn yr adroddiad hwn.  Byddai cyflwyniad llawn yn cael ei wneud yn y Cyngor Sir.

           

Roedd yr yn cynnwys y tablau canlynol:

·         Tabl 1: Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol Gweddilliol 2024/25

·         Tabl 2: Datrysiadau Arfaethedig Cyllideb Terfynol 2023/24

·         Tabl 3: Cyllideb arfaethedig ar gyfer 2024/25

·         Tabl 4: Addasiadau Cyllideb Ysgolion

·         Tabl 5: Addasiadau Cyllideb Gofal Cymdeithasol

·         Tabl 6:  Rhagolygon Tymor Canolig 2025/26 – 2026/27

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y gofyniad cyllideb ychwanegol ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 yn cael ei nodi a’i gymeradwyo;

 

(b)       Bod y cynigion terfynol ar gyfer y gostyngiadau yn y costau a fydd yn cyfrannu at y gyllideb yn cael eu cymeradwyo;

 

(c)        Bod cyllideb gyfreithiol a chytbwys  yn seiliedig ar y cyfrifiadau a’r ddau ddewis sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad yn cael ei hargymell i'r Cyngor;

 

(d)       Bod y risgiau agored sylweddol sy’n parhau i gael eu rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/25 yn cael eu nodi;

 

(e)       Bod  cynnydd blynyddol cyffredinol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25 wedi ei seilio ar y ddau ddewis a ddarperir yn cael ei argymell;

 

(f)        Bod y Cyngor yn cael ei wahodd i gymeradwyo Treth y Cyngor ffurfiol gan ein bod ni bellach wedi cael gwybod am braeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint; a

 

(g)       Bod y rhagolygon tymor canolig yn sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael eu nodi.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 19/09/2024

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 29/02/2024

Dogfennau Atodol: