Manylion y penderfyniad

Common Housing Register (Single Access Route to Housing - SARTH)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an annual update on the Common Housing Register.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i amlinellu lefelau presennol yr angen am dai ledled y Sir a’r gwahaniaeth rhwng hynny a faint o dai cymdeithasol sydd ar gael, nad oedd yn cynyddu ar yr un raddfa â lefel yr angen am dai sy’n gyffredin yn ein cymunedau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal bod yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) yn bartneriaeth rhwng yr holl brif ddarparwyr tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, sy’n gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.  Roedd y gwasanaeth i ymgeiswyr yn cynnwys asesiad brysbennu tai, brysbennu atebion tai ar gyfer unigolion sy'n datgan eu bod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac amrywiaeth eang o gyngor am ddewisiadau tai.  Roedd y gwasanaeth hefyd yn rheoli’r holl ymgeiswyr a dderbynnir ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar ôl nodi angen â thystiolaeth amlwg o ran tai.  Dim ond yr ymgeiswyr hynny ag angen o ran tai oedd yn cael eu derbyn ar y Gofrestr Tai, ond elwodd yr holl ymgeiswyr ar gyngor am ddewisiadau tai.

 

            Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y cyfeiriad Polisi ar gyfer dyraniadau Tai Cymdeithasol yn y dyfodol, fel y gwelir yn yr adroddiad, gan ddweud bod Ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru wedi cau yn ddiweddar.  Wrth edrych yn benodol ar ddyraniadau a chymhwysiad tai cymdeithasol, roedd y Papur Gwyn yn ystyried darn o waith ymchwil, sef ‘Dyraniadau:Deall mwy, yng nghyd-destun digartrefedd yng Nghymru’, a oedd yn ceisio deall perfformiad dyraniadau tai cymdeithasol mewn perthynas ag atal a lliniaru digartrefedd.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal at Anghenion o ran Tai, fel y nodir yn yr adroddiad, gan ddweud bod y gofrestr tai cymdeithasol yn cynyddu ac yn sgil hynny, bod amseroedd aros am eiddo yn mynd yn hirach.  Ar ddiwedd Chwarter Cyntaf cyfnod 2020/21, roedd 1,816 o aelwydydd ar y Gofrestr Tai Cyffredin.  Fel y dengys y siart yn yr adroddiad, roedd y galw wedi tyfu yn y blynyddoedd dilynol, a’r nifer presennol o aelwydydd cymwys ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar ddiwedd Trydydd Chwarter 2023/2024 oedd 1,983, a hynny ym mis Rhagfyr 2023.  Roedd dadansoddiad o’r data i’w weld yn atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd arolwg boddhad blynyddol bellach wedi’i gwblhau ar gyfer y Gwasanaeth

Tai Cyffredin, ac roedd prif ganfyddiadau’r arolwg i’w gweld ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Gwahoddwyd yr holl ymgeiswyr i gymryd rhan yn yr arolwg, a chafwyd cyfanswm o 210 o ymatebion.   Cadarnhaodd y prif ddata boddhad bod 51% o ymgeiswyr, wrth gysylltu gyntaf â’r Tîm Cofrestr Tai a Chyngor, yn teimlo bod y gwasanaeth a gynigiwyd yn rhagorol (17%) neu’n dda (34%).

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin am y stoc tai oedd ar gael ar draws y Cyngor, gan gynnwys gan bartneriaid Cymdeithasau Tai, cytunodd yr Uwch Reolwr Atal i ddosbarthu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester, mewn perthynas â glanhau’r gofrestr, pa mor aml yr oedd hyn yn digwydd drwy’r flwyddyn.  Cyfeiriodd at yr anghenion tai arbenigol a nodir yn yr adroddiad, gan ofyn a oedd yna Therapydd Galwedigaethol arbenigol a oedd yn gweithio gyda’r Portffolio Tai i helpu canfod llety priodol a hefyd, a oedd ymgeiswyr oedd eisiau eiddo mwy yn cael adborth realistig, o ystyried y diffyg eiddo 5 ystafell wely ar draws y Sir.  Gofynnodd a oedd rhywun yn cysylltu â’r bobl hynny a oedd yn byw mewn eiddo wedi’i addasu, nad oedd angen yr addasiadau mwyach, i weld a oedden nhw eisiau symud t? i helpu gyda’r gofrestr angen tai arbenigol, a hefyd a oedd yr achosion o ddyblygu ceisiadau a ganfuwyd yn dangos angen am hyfforddiant wrth roi pobl ar y gofrestr.   

 

Ymatebodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal drwy ddweud nad oedd y gofrestr yn cael ei hadolygu bob blwyddyn gan fod adolygiadau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, gydag ymgeiswyr Band 1 yn cael eu hadolygu mor aml ag y bo modd.  Roedd yna Therapydd Galwedigaethol arbenigol yn gweithio gyda thîm y gofrestr tai ac unrhyw bartneriaid tai i ystyried addasiadau mawr, er mwyn osgoi gorfod ychwanegu pobl at y gofrestr angen tai arbenigol, a hefyd i baru pobl ag eiddo gwag priodol.  O ran eiddo mwy, mae’r tîm yn ceisio rheoli disgwyliadau cystal ag y gallant ac mae adnodd mapio ar gael i ymgeiswyr ar y wefan i ddangos ble mae’r nifer gyfyngedig o gartrefi cymdeithasol i deuluoedd mwy ar gael ar hyd a lled y Sir.  Dywedodd fod y tîm yn blaenoriaethu ymgeiswyr sydd eisiau symud i d? llai os oedd yr eiddo o fudd i’r Cyngor, a’u bod hefyd yn gwneud gwaith wedi’i dargedu.  Dywedodd hefyd fod y dyblygu ymgeiswyr ar y gofrestr yn fater hyfforddi a oedd yn cael sylw.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Selvester at y ceisiadau yn ôl math o eiddo yn yr adroddiad, a oedd yn nodi bod 30 o bobl yn aros am eiddo 5 ystafell wely, ond holodd pam fod y ffigwr hwn i’w weld fel 17 yn adran 1.08 yr adroddiad.  Cytunodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal y byddai’n egluro hyn i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Evans dan ba amgylchiadau fyddai’r Cyngor yn gadael rhywun ar y gofrestr ar Fand 4 os oedden nhw’n fwriadol ddigartref neu heb unrhyw gysylltiad lleol.  Yn dilyn ymateb gan yr Uwch Reolwr Tai ac Atal, awgrymodd y Cadeirydd y dylid dosbarthu astudiaeth achos ar gyfer pob un o’r Bandiau, o 1 i 4, i aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod er mwyn egluro’r meini prawf ar gyfer pob band yn well. 

 

Cafodd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Selvester.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r lefel gyfredol o angen o ran tai ar draws y Sir a’r pwysau cynyddol o ran tai cymdeithasol nad oedd yn cyd-fynd â’r cyflenwad o gartrefi oedd ar gael yn lleol; ac

 

(b)       Y dylid cael adborth gan yr ymgeiswyr yn dilyn canlyniadau’r Arolwg Boddhad Cwsmeriaid ar gyfer y Gofrestr Tai Cyffredin.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2024

Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: