Manylion y penderfyniad
Audit Wales Assurance & Risk Assessment Report - Carbon reduction plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar ganlyniad adroddiad Archwilio Cymru ar ymrwymiad a chamau gweithredu’r Cyngor gyda charbon yn erbyn darganfyddiadau eu hadroddiad sector gyhoeddus gyfan. Mae’r adroddiad wedi cael ei ystyried gan Gabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi.
Yn ystod trafodaeth fe ddywedodd y Cynghorydd Allan Marshall y dylai’r ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru gael ei gefnogi gyda chyllid perthnasol.
Wrth gydnabod yr argymhelliad gan Archwilio Cymru fe ofynnodd y Cynghorydd Steve Copple os oedd y diffyg cyllid yn cyflwyno risg i uchelgais y Cyngor a dywedodd bod enillion bach yn ffordd ymlaen o ystyried y cyfyngiadau ariannol presennol.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r Cyngor yn adolygu’r strategaeth a’i uchelgeisiau o fewn y 18 mis nesaf a byddai yna gyfle am ymrwymiad gan y Pwyllgor. Aeth ymlaen i gyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio cynlluniau Salix (fel yr oedd eisoes wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf) er mwyn cyfrannu at arbedion effeithiolrwydd ynni yn ogystal â phrosiectau lleihau carbon wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.
Awgrymodd y Cadeirydd fod swyddogion o’r tîm Cyllid Cyfalaf yn cael eu gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol i drafod yr opsiynau sydd ar gael i gyflawni amcanion y Cyngor. Awgrymodd y Prif Swyddog y byddai’r eitem yn gallu ymgorffori enghreifftiau cadarnhaol o sut y mae prosiectau yn y blynyddoedd a fu wedi cael eu hariannu.
Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Hilary McGuill ar yr angen am fwy o ddatblygiadau carbon niwtral newydd fe gynghorodd y Prif Swyddog er mai cyfrifoldeb Rheoli Adeiladau oedd hyn yn bennaf y byddai trefniadau yn cael ei gwneud ar gyfer hyfforddiant Pwyllgor Cynllunio. Cyfeiriodd y Cadeirydd at drafodaeth ar y pwnc hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2023.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Carolyn Preece.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad Archwilio Cymru a chefnogi’r camau a gymerir i fynd i’r afael â’u hargymhelliad.
Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 20/08/2024
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/03/2024 - Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd
Dogfennau Atodol: