Manylion y penderfyniad
Council Tax Reform - Welsh Government Phase 2 Consultation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Committee with information and a recommended response to the Welsh Government phase 2 consultation on Council Tax Reform.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru a oedd yn ceisio barn ar y rhaglen diwygio Treth y Cyngor, yn dilyn ymgynghoriad cam 1 ym mis Medi 2022. Byddai adborth gan y Pwyllgor ar yr ymatebion a argymhellir yn cael ei rannu gyda’r Cabinet cyn cyflwyno ymateb ffurfiol.
Darparodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael drosolwg o oblygiadau cynigion LlC, a oedd yn cynnwys:
· Cwblhau ailbrisiad Treth y Cyngor.
· Cynllunio system newydd o fandiau a chyfraddau treth sydd yn fwy blaengar.
· Gwella'r fframwaith o ostyngiadau, pobl a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau.
· Gwella Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.
Yn ogystal â’r cynigion, roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar gyflymder diwygio fel y nodir yn y tri dewis.
Siaradodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson o blaid diwygio gyda’r strwythur eiddo 12 band llawn a oedd yn ôl pob golwg yn cynrychioli’r dewis ariannol gorau ar gyfer Sir y Fflint, a gofynnodd pam nad oedd hyn wedi cael ei adlewyrchu yn yr ymateb argymelledig. Holodd hefyd am y cyfeiriad at y Lwfans Byw i’r Anabl yn yr ymateb, gan nad oedd hwn ar gael i hawlwyr newydd mwyach, ac fe gynigodd y dylai’r Pwyllgor wrthod y diffiniad o dreth ‘flaengar’ yng ngeirfa’r adroddiad.
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sam Swash a siaradodd o blaid diwygiadau radical ‘ehangach’ a oedd yn cael eu hystyried fel y rhai mwyaf blaengar ac y dylid eu gweithredu ar frys. Cefnogwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge.
Amlygodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yr anawsterau o ran asesu effaith diwygiadau ehangach gan nad oedd cymarebau bandio i’w gweld. Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael nad oedd y rhain wedi’u cynnwys yn y papur ymgynghori ac y byddai’n gwirio hyn.
Wrth groesawu’r ymgynghoriad, dywedodd y Cynghorydd Ibbotson y gallai LlC gymryd y cyfle i roi’r baich treth ar berchennog yr eiddo yn hytrach na’r preswylydd.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael ei bod yn bwysig i nodi y byddai effeithiau cyffredinol yr ailbrisiad ar gyllid llywodraeth leol yn niwtral o ran cost ar gyfer pob dewis.
Yn dilyn y drafodaeth, crynhodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y consensws cyffredinol bod y Pwyllgor yn ffafrio gweithredu’r cam mwyaf radical cyn gynted â phosibl. Yn dilyn cynnig ac eilio, cafwyd pleidlais a derbyniwyd y cynnig.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried cynigion (cam 2) Llywodraeth Cymru i ddiwygio Treth y Cyngor, bod barn y Pwyllgor i weithredu’r diwygiadau mwyaf radical cyn gynted â phosibl yn cael ei hadrodd yn ôl i’r Cabinet.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 11/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: