Manylion y penderfyniad
Alarm Service Charges Review
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To outline the proposal to achieve full cost
recovery for the Housing Revenue Account alarms service.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd o fewn stoc dai y Cyngor (CRT) roedd yna 2592 o unedau llety tai gwarchod. Yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth warden yn 2009 roedd y gwasanaeth hwn wedi dod i ben ac roedd y Gwasanaeth Cefnogi Llety yn y Gymuned wedi’i sefydlu. Roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth daliadaeth niwtral i unrhyw berson h?n yn Sir y Fflint allai fod angen cefnogaeth sy’n ymwneud â thai.
Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth ymateb ar gyfer achosion o ganu larwm. Ar gyfer preswylwyr CRT, gwasanaeth 24 awr y dydd yw hwn, sydd yn gweithredu gwasanaeth tu allan i oriau o fewn y tîm ar gyfer gwaith y tu allan i oriau swyddfa (nosweithiau, min nos a phenwythnosau). Y cynnig a amlinellwyd yn yr adroddiad oedd gweithredu’r ffi gwasanaeth uwch i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd. Byddai’r ffi yn cael ei gweithredu ar gyfer pob preswylydd newydd mewn cynlluniau llety gwarchod lle’r oedd larwm wedi’i osod, yn unol â’r broses bresennol ar ddechrau eu contract newydd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod yr adroddiad yn darparu manylion am gynnig i gynyddu’r ffi gwasanaeth i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd a byddai’r ffi gwasanaeth yn berthnasol i bob eiddo gwarchod o’r dyddiad gosod yn y dyfodol.
Roedd y cynnig yn cynrychioli cynnydd o £0.85 fesul wythnos galendr, neu wrth gyfrif dros gyfnod o 50 wythnos roedd yn cyfateb i £0.98 o gynnydd. Bydd hyn yn golygu y gellir adennill y costau llawn o 2024/2025 ymlaen a bydd y ffi yn cael ei adolygu’n flynyddol yn rhan o broses gynllunio busnes CRT i alinio costau i ffioedd gwasanaeth wrth symud ymlaen.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnig i adennill cost lawn gwasanaeth larwm y cyfrif refeniw tai.
Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/01/2024
Dogfennau Atodol: