Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
This regular monthly report provides the
latest revenue budget monitoring position for 2023/24 for the
Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on
actual income and expenditure as at Month 8, and projects forward
to year-end.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 8.
Roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
· Roedd y diffyg gweithredol o £2.942m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.728m o’r ffigwr diffyg a adroddwyd ym Mis 7
· Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £4.918 miliwn (ar ôl union effaith dyfarniadau cyflog a chan ystyried dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol)
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.018 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.118 miliwn o’r ffigwr a adroddwyd ym Mis 7
· Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.297 miliwn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon economaidd yn parhau'n heriol gan fod lefelau chwyddiant yn parhau i fod yn uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, yn dod yn fwyfwy anodd ymdrin â nhw wrth i gyllid y Cyngor fethu â chadw i fyny â maint y pwysau hynny.
I gynorthwyo i reoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant amcanol
cyffredinol, roedd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo’n gytundebol wedi’i roi
mewn lle gyda phroses rheoli swyddi gwag oedd yn parhau.
Hyd at Fis 8, roedd £1.293m o wariant gohiriedig a/neu hwyr wedi’i nodi ac roedd wedi’i ddadansoddi gan y gwasanaeth o fewn Atodiad 2. Byddai her gadarn llinellau ac ymrwymiadau’r gyllideb yn parhau, a byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu mewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24.
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/01/2024
Dogfennau Atodol:
- Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8) PDF 260 KB
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8) PDF 194 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8) PDF 102 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8) PDF 62 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8) PDF 82 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8) PDF 142 KB