Manylion y penderfyniad

Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To provide an update on the developments of the NEWA Archive project.

Penderfyniadau:

Roedd y Cynghorydd Roberts wedi cyflwyno’r adroddiad ac egluro er mwyn cynyddu effaith y gwasanaethau archif yn ein cymunedau ac ymestyn eu cyrhaeddiad ar draws Sir y Fflint a Sir Ddinbych a mynd i’r afael â phrif ddiffygion yn yr adeiladau archif presennol ym Mhenarlâg a Rhuthun, roedd Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn rhannu uchelgais i adeiladu cyfleuster archif o’r radd flaenaf, newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru ar gampws Neuadd y Sir, ger Theatr Clwyd. 

 

Byddai’r cyfleuster yn dod â chasgliadau Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd mewn un lleoliad.    Byddai’r adeilad newydd hefyd yn gweithredu fel canolbwynt mewn model o weithredu trwy bwynt canolog, a fyddai’n darparu mynediad digidol i’r deunyddiau archif drwy bwyntiau mynediad mewn llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus eraill i ehangu cyfranogiad ar draws Sir y Fflint a Sir Ddinbych. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod AGDdC, gyda chefnogaeth y ddau Gyngor, wedi cyflwyno cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Chwefror 2021 ac roedd wedi colli allan o fewn trwch blewyn o dderbyn cyllid.   Nid oedd yna unrhyw adborth negyddol ar gynnwys ac ansawdd y cais, ac roedd cais newydd wedi’i annog.   Roedd y cais am grant wedi cael ei gyflwyno ac erbyn Mawrth 2024 byddai’r Cyngor yn gwybod pa un a fyddai wedi derbyn arian grant ai peidio.    

 

Roedd symud i un adeilad yn galluogi AGDdC i gyfuno a gwneud y defnydd gorau o’i

adnoddau, yn diogelu’r gwasanaethau archif yn y ddau Gyngor ac yn galluogi’r Cyngor i gyflawni cynllun gweithgaredd cyffrous a fyddai’n cyflwyno archifau i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, gan wneud cyfraniad cadarnhaol i les ac addysg ein preswylwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cyflwyno cais am grant pellach i NLHF Cymru am £7.336m gan Wasanaeth Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC) ar 15 Tachwedd 2023 i gael ei nodi;

 

(b)       Bod canlyniad y cais am grant a fyddai’n hysbys erbyn diwedd Mawrth 2024 yn cael ei nodi ac os byddai’r cais a’r prosiect yn llwyddiannus, yna bydd y model darparu gwasanaeth yn gwbl weithredol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2027-28; a

 

(c)        Bod yr heriau a wynebir gan y prosiect ers 2021 a’r datblygiadau parhaus, gan gynnwys effaith costau posibl y prosiect yn sgil pwysau chwyddiant yn amodau’r farchnad bresennol. 

Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield

Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024

Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 25/01/2024

Dogfennau Atodol: