Manylion y penderfyniad

Convictions, Conduct and Breach of Condition of a licensed Private Hire / Hackney Carriage Driver

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried euogfarnau, ymddygiad a thor amodau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) trwyddedig, a phenderfynu a yw’n dal i fod yn gymwys ac addas i barhau i ddal trwydded o’r fath.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd y gyrrwr pam y bu oedi o ran cyflwyno gwybodaeth a geisiwyd gan y tîm Trwyddedu a’r amgylchiadau o ran y troseddau a ddigwyddodd dro ar ôl tro, a’r rhybudd am guro.   Darparodd y gyrrwr fanylion o ran y camau y mae wedi’u cymryd i wella prosesau dogfennu.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r gyrrwr a Rheolwr y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

Yn dilyn cyfnod byr, gwahoddwyd Rheolwr y Tîm Trwyddedu a’r gyrrwr yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod.

 

Eglurwyd bod Aelodau’r Is-Bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth gan gynnwys adroddiad y swyddog trwyddedu, manylion euogfarnau, canllawiau’r Cyngor o ran ymdrin ag euogfarnau a’r canllawiau statudol ynghyd â’r eglurhad a gafwyd gan y gyrrwr.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr holl euogfarnau gyrru yn berthnasol.   Roeddent wedi ystyried eglurhad y gyrrwr a’r amgylchiadau lliniarol ond ni allent dderbyn y ffaith bod yr euogfarnau wedi arwain at 15 pwynt ar drwydded yrru DVLA’r gyrrwr. Byddai hyn wedi arwain at ei wahardd pe na bai’r Llys wedi derbyn rhesymau o galedi eithriadol.   Roeddent o’r farn bod y canllawiau ar wahardd yng nghanllawiau’r Cyngor o ran ymdrin ag euogfarnau yn berthnasol. Mae’n nodi os yw digon o bwyntiau cosb wedi’u casglu dros gyfnod o dair blynedd o dan y system “gronni” a fyddai’n achosi neu’n arwain at waharddiad, ni fyddai’r ymgeisydd yn derbyn trwydded nes 12 mis ar ôl diwedd cyfnod y gwaharddiad er gwaethaf penderfyniad y llys i beidio â gwahardd ar sail caledi eithriadol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried y rhybudd o 2020.   Roedd yr amgylchiadau a arweiniodd at y rhybudd yn achos pryder ac o ran canllawiau’r Cyngor ar sut i ymdrin ag euogfarnau, roedd yr Aelodau o’r farn bod dyddiad y rhybudd yn golygu ei fod yn parhau i fod yn berthnasol.   Roeddent hefyd wedi ystyried y ffaith nad oedd y gyrrwr wedi cyflwyno manylion y rhybudd ar y cais i adnewyddu ac yn unol ag amodau’r safonau roedd y ffaith bod angen i’r awdurdod trwyddedu atgoffa’r gyrrwr sawl gwaith bod angen iddo ddychwelyd gwaith papur pwysig gan gynnwys GDG hefyd yn berthnasol.   Roedd yr Aelodau o’r farn nad oedd yr ymddygiad yn diwallu lefelau proffesiynoldeb a ddisgwylir gan yrrwr trwyddedig.

 

Roedd yr Is-Bwyllgor hefyd o’r farn bod yr holl faterion perthnasol sydd wedi’u hystyried gyda’i gilydd yn golygu, gan gydbwyso’r tebygolrwydd, nad yw’r gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i ddal Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat ac felly bod achos rhesymol o dan adran 61 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i atal neu ddirymu’r drwydded.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried yr opsiynau a oedd ar gael iddynt o dan adran 61 (1) Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.   Nid oeddent yn credu y byddai cyfnod o atal yn addas yn seiliedig ar yr amgylchiadau ar hyn o bryd ond roeddent yn nodi o adroddiad y swyddog trwyddedu nad yw’r penderfyniad i ddirymu yn atal ailgyflwyno trwydded yn y dyfodol, pe byddai gwybodaeth bellach sy’n addasu’r cydbwysedd o ran tebygolrwydd.   Penderfynodd yr Aelodau’n unfrydol y dylid dirymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat y Gyrrwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nad yw deiliad y drwydded yn cael ei ystyried yn unigolyn addas a chymwys i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) mwyach o dan ddiffiniad Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac felly dylid dirymu’r drwydded.

 

Ar ôl darllen penderfyniad yr Is-bwyllgor (fel yr uchod) a chyn cloi’r cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd wrth y Gyrrwr fod ganddo’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, ac y byddai copi ysgrifenedig o’r penderfyniad yn cael ei anfon ato.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2024

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2023 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •