Manylion y penderfyniad
Unsafe Memorials in Flintshire Cemeteries
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval for an alternative and
permanent method of making memorials safe if the memorial is not
repaired by the Registered Grave Owner as well as the removal /
making safe of any broken kerb sets that have fallen into
disrepair.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod y gwasanaeth yn gyfrifol am tua 20,000 o gerrig beddi neu gofebion o amrywiaeth o siapiau a meintiau ac roedd yna ddyletswydd ar y Cyngor i gynnal a chadw’r tir claddu mewn cyflwr da a diogel.
Roedd cyfuniad o absenoldeb cofnodion a/neu absenoldeb aelodau o’r teulu oedd wedi goroesi ac yn fodlon ymgymryd â’r gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar gofebion wedi arwain at oddeutu 700 o gofebion o fewn mynwentydd Sir y Fflint yn cael eu hystyried yn anniogel yn strwythurol. Er bod y cofebion hynny yn parhau i gael eu cefnogi gan bolion pren, roedd angen gweithredu datrysiad parhaol. Yn ogystal â chofebau anniogel, roedd ymylfaen o fewn mynwentydd h?n y cyngor hefyd mewn cyflwr gwael, gan arwain at y posibilrwydd o berygl baglu.
Diben yr adroddiad oedd ceisio cefnogaeth a chymeradwyaeth ar gyfer dull amgen a pharhaol o wneud y cofebion yn ddiogel, os na fyddai’r gofeb yn cael ei atgyweirio gan y perchennog bedd cofrestredig, yn ogystal â gwneud unrhyw ymylfaen oedd yn rhydd o brif strwythur y bedd yn ddiogel.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnig i fabwysiadu y dull “tyllu i mewn” i sefydlogi’r cofebau hynny a ystyriwyd oedd yn anniogel yn strwythurol pan na ellir olrhain perchnogion y bedd yn cael ei gefnogi. Bydd y dull hwn yn mynd i’r afael â risg iechyd a diogelwch parhaus sy’n gysylltiedig â chofebau anniogel sydd ond yn cael eu trwsio dros dro ar hyn o bryd; a
(b) Bod y cynnig i fynd i’r afael ag ymylfaen anniogel drwy ailosod pob rhan o’r ymyl o fewn strwythur y bedd - naill ai uwchlaw neu islaw’r wyneb yn dibynnu a oes yna sylfaen slab concrid yn cael ei gefnogi.
Awdur yr adroddiad: Katie Wilby
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/01/2024
Dogfennau Atodol: