Manylion y penderfyniad
Capital Programme 2024/25 – 2026/27
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the Capital Programme 2024/25
– 2026/27 for approval
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan egluro bod y Rhaglen Gyfalaf yn cwmpasu buddsoddiadau’r Cyngor ynghlwm ag asedau a hefyd yn ystyried y sefyllfa o ran y gyllideb refeniw.
Yna, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar y sleidiau canlynol:-
- Rhaglen Gyfalaf 2024/25–2026/27
Ø Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol.
Ø Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.
Ø Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ailstrwythuro gwasanaethau er mwyn cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi yng nghynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor.
- Rhaglen Gyfredol 2023/24–2025/26
- Cyllid Disgwyliedig 2024/25–2026/27
- Statudol/Rheoleiddiol – Dyraniadau Arfaethedig
Ø Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (1)
Ø Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (2)
Ø Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (1)
Ø Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (2)
- Crynodeb Rhaglen wedi ei Hariannu’n Gyffredinol
- Cynlluniau sy’n Cael eu Hariannu’n Benodol
- Crynodeb Rhaglen Gyfalaf
- Cynlluniau Posib’ ar gyfer y Dyfodol
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr adolygiad o ystadau diwydiannol a gofynnodd pam oedd angen dymchwel yr unedau gwag. Cynigiodd welliant y dylai'r unedau ar ystadau diwydiannol gael eu hadolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i ddod i ddeall beth oedd ynghlwm â hynny.
Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol fod yr unedau ym Maes Glas ac y tu hwnt i gael eu hatgyweirio’n fforddiadwy; ac roedd swm o £200,000 wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf i wneud y gwaith.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ystâd benodol y cyfeirid ati y tu hwnt i'w hatgyweirio ac y gallai unedau cychwynnol gael eu gosod yn lle’r unedau presennol ar gyfer busnesau bach oedd eu hangen. Byddai hyn hefyd yn mynd i'r afael â Threthi Busnes Unedau Gwag a oedd yn cael eu codi ar y Cyngor.
Croesawai’r Cynghorydd Richard Jones yr awgrym o adroddiad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac yntau’n Gadeirydd.
Roedd y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn croesawu dymchwel y tair uned ym Maes Glas a oedd, yn ei barn hi, yn risg i iechyd a diogelwch.
Mewn ymateb i gwestiwn am Gymunedau Dysgu Cynaliadwy gan y Cynghorydd Crease, roedd y Rheolwr Corfforaethol ar ddeall bod Bandiau B ac C Cymunedau Cynaliadwy bellach wedi'u diddymu ond y gallai'r Cyngor ddwyn unrhyw brosiect y dymunai ymlaen fel rhan o'i raglen fuddsoddi. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth Lleoedd mewn Ysgolion) fod nifer o brosiectau oedd yn y rhaglen Band B ond heb eu datblygu eto oedd yn cynnwys darpariaeth addysg yn ardal Saltney a Brychdyn. Roedd adolygiad yn cael ei gynnal ar yr hyn a allai gael ei ystyried yng ngham nesaf y buddsoddiad, gan edrych ar unrhyw brosiect nad oedd wedi'i gynnwys yn y rownd nesaf. Dywedwyd bod proses ymgysylltu gynnar anffurfiol wedi'i chynnal yng nghymunedau Saltney a Brychdyn, a oedd yn wahanol i ymgynghoriad. Roedd datganiad i'r wasg wedi'i ddarparu i nodi’r prif themâu o'r broses ymgysylltu gynnar, gyda manylion llawn i gael eu darparu mewn adroddiad yn y dyfodol i'r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y Flwyddyn Newydd.
Cynigiwyd y gwelliant gan y Cynghorydd Peers ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones a chafodd ei gymeradwyo pan gynhaliwyd pleidlais ar y mater.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer yr adrannau Statudol/Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25–2026/27;
(b) Cymeradwyo’r cynlluniau sydd yn Nhabl 4 ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25–2026/27;
(c) Nodi bod y diffyg o ran ariannu’r cynlluniau yn 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 5 ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau, gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ail-drefnu cynlluniau yn rhai fesul cam, yn cael eu hystyried yn ystod 2024/25 ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol;
(d) Cymeradwyo’r cynlluniau sydd yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran sydd wedi’i hariannu’n benodol yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol trwy fenthyca; a
(e) Bod adroddiad ar unedau diwydiannol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i’w ystyried.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 07/05/2024
Dyddiad y penderfyniad: 06/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/12/2023 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: