Manylion y penderfyniad
Council Tax Reform – Welsh Government Phase 2 Consultation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide information and a recommended response to the Welsh Government phase 2 consultation on Council Tax Reform.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru i’r Aelodau yn ceisio barn ar raglen barhaus diwygio treth y cyngor. Roedd cynigion cam 2 yn canolbwyntio ar:
· Graddfa a chyflymdra diwygiadau bandio/ail-werthuso treth y cyngor posibl.
· Diwygio eithriad treth y cyngor Dosbarth F ar gyfer eiddo oedd yn
wag ble roedd y preswylydd blaenorol wedi marw ac nid oedd unrhyw warant profiant na llythyrau gweinyddu wedi eu cyflwyno.
· Eglurder am y termau a meini prawf priodol ar gyfer eithrio treth y cyngor
Dosbarth U ar gyfer aelwydydd ble roedd y meddiannydd wedi’i dystio i fod â salwch meddwl difrifol’.
Roedd y Rheolwr Refeniw a Chaffael wedi darparu manylion llawn ar gyfer y dewisiadau oedd ar gael.
Eglurodd y Cynghorydd Healey fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ble roeddent yn cefnogi’r fersiwn estynedig a’i weithredu gynted â phosibl. Roedd yn symud newid i’r argymhelliad ar gyfer cefnogi’r fersiwn estynedig ond gyda dull graddol, oedd yn cael ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod cynigion Llywodraeth Cymru (cam 2) i ddiwygio Treth y Cyngor yn cael eu nodi, a bod uwch swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ymateb i’r ymgynghoriad i argymell y fersiwn estynedig a’i roi ar waith fesul cam.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/01/2024
Dogfennau Atodol: