Manylion y penderfyniad
Waste Strategy Consultation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval for consultation for the authority’s draft waste strategy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cefnogi’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru (LlC) i’r Sector Gyhoeddus ddod yn sero net erbyn 2030 ac ym mis Rhagfyr 2019 fe gymeradwyodd Aelodau’r Cabinet y symudiad i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd amlwg a fyddai’n gosod y prif nodau a gweithredoedd ar gyfer creu sefydliad carbon niwtral.
Mae lleihau eich defnydd o bethau na ellir eu hailddefnyddio ac ailgylchu a chynyddu eich defnydd o’r hyn y gallwch eu hailddefnyddio a’u hailgylchu i arbed adnoddau gwerthfawr yn rhan allweddol o gyrraedd sero net.
Mae’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff drafft wedi arwain y cyfeiriad strategol i leihau gwastraff ac i ragori ar dargedau ailgylchu statudol LlC. Heb weithredu bydd yr Awdurdod mewn perygl o gael dirwyon gwerth £1.13 miliwn am beidio â chyflawni’r targedau hyn yn 2021/2022 a 2022/2023 a mwy o ddirwyon yn 2023/2024 a thu hwnt.
Mae’r Strategaeth newydd yn arddangos i’r Gweinidog ymrwymiad y Cyngor i wneud y newid. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gyflawni ymarfer ymgynghori ar y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff drafft.
Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) y risg o ddirwyon posib am dorri rheolau o beidio â chyflawni’r targedau ailgylchu statudol, a heb newidiadau sylweddol i’r gwasanaeth roedd yn annhebygol y byddai’r targedau yn cael eu cwrdd. Amlygodd y Prif Swyddog y dadansoddiad cyfansoddiadol a oedd yn dangos y byddai 58% o’r hyn a aeth i mewn i’r bin gwastraff gweddilliol wedi gallu cael ei ailgylchu yn defnyddio’r gwasanaethau presennol gyda 30% yn wastraff bwyd.
Ffocws y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd oedd i gefnogi preswylwyr a chymunedau i osgoi gwastraff ac i hyrwyddo ailddefnyddio deunyddiau gwerthfawr, a phan fo hynny ddim yn bosib, i alluogi preswylwyr i ailgylchu eitemau trwy gael gwared arnyn nhw yn y ffrwd dros ben fel y cam olaf.
Ynghyd â’r mandad i addysgu’r cyhoedd ar ailgylchu a gweithdrefnau gorfodi, mae’r Gweinidog wedi gofyn i waith pellach gael ei wneud gan yr awdurdod i ddarparu cynllun gweithredu gyda mwy o feddwl y tu cefn iddo sy’n fwy realistig ac yn seiliedig ar dystiolaeth fel rhan o’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff. Byddai’n golygu ymdrech ar y cyd gyda’r Prif Swyddog yn egluro ei bod yn bwysig fod preswylwyr a chymunedau yn cael y cyfle i siapio’r cynigion a byddai hynny’n golygu bod angen cynnal ymgynghoriad llawn.
Byddai’r ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 1 Rhagfyr ac yn cael ei gynnal tan 12 Ionawr. Byddai’n edrych fel arolwg byr ar-lein, cyfres o ddigwyddiadau galw heibio wyneb yn wyneb, sesiynau briffio i Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned a, phan na fyddai mynediad ar gael i’r arolwg ar-lein byddai arolygon papur yn cael eu darparu.
Cefnogodd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad a’r ymgynghoriad sydd ar y ffordd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud ar gyflawni Strategaeth Adnoddau a Gwastraff cadarn ac effeithiol i gwrdd â thargedau sero net ac i leihau’r siawns o risg o ddirwyon a chyflawni targedau ailgylchu statudol; a
(b) Bod dechrau ar yr ymarfer ymgynghori ar Strategaeth Adnoddau a Gwastraff drafft yn cael ei gymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Katie Wilby
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/11/2023
Dogfennau Atodol: