Manylion y penderfyniad
Audit Wales Report - Social Enterprise
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on actions following receipt of the Audit Wales report on Social Enterprise.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio adroddiad ar gamau ar ôl derbyn adroddiad Archwilio Cymru ar Fenter Gymdeithasol.
Roedd yr adolygiad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru wedi nodi sawl argymhelliad a chreu adnodd hunanasesu i’w ddefnyddio gan gynghorau ar draws Cymru. Roedd yr ymateb a’r cynllun gweithredu, oedd ynghlwm â’r adroddiad yn rhoi cyfle i adeiladu ar lwyddiant y Cyngor a nodi gwelliannau pellach i’r gwasanaeth. Roedd yr adroddiad wedi’i rannu gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi a chymeradwywyd gan y Cabinet.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd y byddai sesiynau o bell yn helpu i gynyddu cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o fenter gymdeithasol.
Roedd Sally Ellis yn croesawu cyflawniadau’r Cyngor ac yn awgrymu bod y cynllun gweithredu yn cynnwys amserlenni. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn cytuno y byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad nesaf.
Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn talu teyrnged i ymrwymiad y Cyngor am fuddsoddi mewn menter gymdeithasol. Mewn perthynas â rolau, roedd Charles Rigby yn egluro rôl y Pwyllgor o ran derbyn sicrwydd gan yr ymateb a monitro gweithredu.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth eglurhad ar y prif fathau o gefnogaeth a roddwyd gan y Cyngor mewn ffurf mentrau cymdeithasol. Ar gwestiwn gan Brian Harvey, roedd yn siarad am weithgareddau caffael.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog a’i dîm am yr adroddiad cadarnhaol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Brian Harvey a Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r ymateb bwriedig i Archwilio Cymru a’r dogfennau cefnogol.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 12/08/2024
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: