Manylion y penderfyniad
Access Barrier Review update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To agree the implementation of access
improvements to the Wales Coast Path.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod Cyngor Sir y Fflint wedi penodi ymgynghorydd i gynnal adolygiad o’r mesurau rheoli mynediad presennol ar waith ar adran o Lwybr Arfordir Cymru (LlAC) rhwng Caer a Queensferry.
Roedd argymhellion o astudiaeth yr ymgynghorydd wedi eu trafod yn Sir y Fflint.
Fforwm Mynediad Lleol, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a’r Amgylchedd a’r Cabinet ym mis Gorffennaf 2023. Y penderfyniad yn y Cabinet oedd i gael adborth pellach gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid pan gafodd dyluniadau gweithredu eu sefydlu.
Roedd Cynllun a manyleb wedi eu llunio ar gyfer pwyntiau mynediad ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru o amgylch ardal pont droed Saltney ac anfonwyd allan ar gyfer adborth yn ystod mis Hydref.
Roedd crynodeb o ymatebion ynghlwm i’r adroddiad.
Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi wedi ystyried yr adborth ar 19 Rhagfyr ble roedd y cynigion wedi eu cefnogi gan y mwyafrif.
Roedd y dewis a gyflwynwyd yn amlygu’r cyfleoedd a’r risgiau i’r Awdurdod.
Roedd y Cynghorwyr Bibby a Jones yn croesawu’r adroddiad a’r gwelliannau arfaethedig a oedd yn darparu cyfaddawd pragmatig.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adborth ar y gwelliannau mynediad bwriedig a’r risgiau posibl i’r Awdurdod yn cael eu nodi; a
(b) Bod y gwelliannau bwriedig i’r pwyntiau mynediad fel y manylwyd yn y cynllun a’r fanyleb yn cael eu cymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Tom Woodall
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/01/2024
Dogfennau Atodol: