Manylion y penderfyniad
Homeless Pressures
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To present the proposed mitigating measures
being explored with a view to reducing the budget pressure around
emergency accommodation.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd o fewn Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Medi 2023, yr argymhellwyd bod adroddiad ar wahân yn cael ei baratoi gan Dai a Chymunedau yn ôl gofynion Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, i ymhelaethu ar y rhesymau dros y gorwariant sylweddol ar y gyllideb ddigartrefedd a’r mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith.
Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’.
Yn ogystal â’r gyllideb
ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys. Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb. Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf yn ystafelloedd mewn gwestai, o fewn a thu allan i ffiniau
Sir y Fflint, ynghyd â rhai ffurfiau eraill o letyai gwyliau fel carafanau a rhandai.
Roedd dewisiadau wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb ddigartrefedd, a amlinellwyd yn atodiad yr adroddiad.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai wedi ystyried yr adroddiad ac wedi cefnogi’r dewisiadau wedi’u hamlinellu yn yr atodiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran ddigartrefedd; a
(b) Chefnogi’r dewisiadau a amlinellwyd yn atodiad 1 i gynyddu cyflenwad a lliniaru gorwariant pellach ar y gyllideb ddigartrefedd.
Awdur yr adroddiad: Martin Cooil
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/11/2023
Accompanying Documents: