Manylion y penderfyniad

Introducing a Corporate Facebook Page

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To agree the need for a Corporate Facebook page that will support digital communications, including good news stories and important information for our communities.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd y byddai cael presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrif Facebook corfforaethol yn cefnogi Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol Sir y Fflint a chyflawni cynlluniau strategol allweddol eraill drwy gyfathrebu ac ymgysylltu â chwsmeriaid ledled Sir y Fflint.

 

Byddai’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Chyfathrebu yn lansio ac yn rheoli cyfrifon Facebook corfforaethol Cymraeg a Saesneg ar wahân, gan roi negeseuon ar y ddau, ac yn eu defnyddio ar gyfer cyfathrebiadau brys, rhannu negeseuon allweddol, straeon o newyddion da, yn ogystal â gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu ar draws y sefydliad.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r Cyngor yn gallu dileu unrhyw negeseuon nad oedd yn berthnasol, neu, er enghraifft, yn sarhaus.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi cyflwyno cyfrif Facebook corfforaethol i helpu i gyflawni'r blaenoriaethau a amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor a'r Strategaeth Ddigidol;

 

(b)       Bod y Cabinet yn cefnogi cyflwyno cyfrif Facebook corfforaethol a defnyddio'r platfform i rannu negeseuon gyda chwsmeriaid.

Awdur yr adroddiad: Hayley Mallon

Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet

Yn effeithiol o: 05/01/2024

Dogfennau Atodol: