Manylion y penderfyniad

Rolling Review of the Members' Code of Conduct

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar God Ymddygiad Aelodau a oedd i’w adolygu fel rhan o’r rhaglen dreigl.

 

Ers yr adolygiad diwethaf ym mis Tachwedd 2022, roedd holl awdurdodau yng Nghymru wedi cytuno i fabwysiadu gwerth cyffredin o £25 fel y trothwy ar gyfer cofrestru anrhegion a lletygarwch, fel yr argymhellwyd gan yr Adolygiad Penn.  Dyma’r unig newid a argymhellwyd i’r Cod Ymddygiad.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Antony Wren ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn diwygio’r gwerth y mae angen cofrestru anrhegion a lletygarwch o £10 i £25.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2024

Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/11/2023 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: