Manylion y penderfyniad
Capital Strategy including Prudential Indicators 2024/25 – 2026/27
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To present the Capital Strategy 2024/25
– 2026/27 for recommendation to Council
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn manylu ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 - 2026/27 i’w hargymell i’r Cyngor.
Mae’r adroddiad yn egluro pam fod angen y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob adran.
Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), yr oedd yn rhaid i Awdurdodau bennu ystod o ddangosyddion darbodus. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25 – 2026/27.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni chodwyd unrhyw broblemau sylweddol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor Sir; a
(b) Chymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor Sir:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25 – 2026/27 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf.
· Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y terfyniadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer yr effaith allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/11/2023
Accompanying Documents: