Manylion y penderfyniad
Capital Programme 2024/25 – 2026/27
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To present the Capital Programme 2024/25
– 2026/27 for recommendation to Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi derbyn adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor. Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg – roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.
Roedd cynlluniau sy’n cael eu hariannu trwy fenthyca yn cael eu hystyried yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.
Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:
1. Statudol / Rheoleiddiol - dyraniadau i gynnwys gwaith rheoleiddiol a statudol
2. Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd
er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.
3. Buddsoddiad - dyraniadau i ariannu gwaith sydd angen ei wneud i ailfodelu’r gwasanaethau
i ddarparu effeithlonrwydd wedi’i amlinellu ym mhortffolio’r cynlluniau busnes a buddsoddiad mewn gwasanaethau
fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Yn hanesyddol, caiff y rhan fwyaf o raglen y Cyngor ei hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau. Roedd gallu’r Cyngor i greu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn
heriol, gan fod yr asedau oedd ar gael i’w gwaredu gan y Cyngor yn lleihau.
Byddai’r Cyngor yn manteisio ar bob cyfle posibl i nodi asedau i’w gwerthu a ffynonellau eraill o arian, fel grantiau penodol a chyfraniadau refeniw. Fodd bynnag, byddai angen i’r Cyngor ddefnyddio benthyca darbodus i ariannu mwy o’r rhaglen wrth symud ymlaen. Yn benodol, byddai angen i’r rhaglen Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a chynlluniau eraill sydd wedi’u cynnwys o fewn y rhaglen fuddsoddi angen cael eu hariannu trwy fenthyca darbodus.
Mae manylion o’r dyraniad arfaethedig 2024/25 - 2026/27 a’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer cyfnod 2024/25 - 2026/27 ar gyfer yr adran Fuddsoddi o’r Rhaglen Gyfalaf wedi’i ddarparu.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod dull darbodus tuag at gynlluniau wedi cael ei wneud oherwydd y pwysau yn y gyllideb refeniw.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni thynnwyd sylw at unrhyw broblemau sylweddol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 yr adroddiad ar gyfer yr adrannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25 – 2026/27;
(b) Cymeradwyo’r cynlluniau a gaiff eu cynnwys yn Nhabl 4 yr adroddiad ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25 – 2026/27;
(c) Nodi fod y diffyg o ran ariannu’r cynlluniau yn 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 5 yr adroddiad ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau, gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ail-drefnu cynlluniau yn rhai fesul cam, yn cael eu hystyried yn ystod 2024/25 ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a
(d) Chymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 yr adroddiad ar gyfer adran Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor sy’n cael ei hariannu’n rhannol trwy fenthyca.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/11/2023
Accompanying Documents: