Manylion y penderfyniad

Flintshire County Summer Playscheme 2023

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide feedback on the Flintshire County Summer Playscheme 2023.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint) adroddiad i roi adborth ar Gynllun Chwarae Gwyliau’r Haf Sir y Fflint 2023. 

 

            Rhoddodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) ddiweddariad manwl ar Gynllun Chwarae Gwyliau’r Haf 2023, gan nodi bod Sir y Fflint yn cynnig cyfanswm o 56 o leoliadau diogel ar gyfercynlluniau chwarae, ac mae’r cynlluniau hyn yn cael eu cynnal dros gyfnod o 3, 4, 5, neu 6 wythnos, yn dibynnu ar ofynion penodol y Cynghorau Tref a Chymuned. Cofrestrodd cyfanswm o 3,681 o blant ledled y sir ar gyfer y Cynlluniau Chwarae, gan arwain at gyfanswm o 11,907 o gofrestriadau dyddiol. Cynhaliwyd 1,200 o sesiynau chwarae, neu 8,000 o oriau o amser cyswllt. Roedd 69 o aelodau o staff wedi’u cyflogi ar gontractau tymor byr ar gyfer yr Haf a chawson nhw 5 diwrnod o hyfforddiant cyn cynnal y cynllun. Yn ogystal â'r ymrwymiad i fynd i’r afael â bod yn llwglyd dros y gwyliau, darparwyd 5,000 o boteli o dd?r a 3,000 o fariau byrbrydau.

 

Gwnaeth Cynlluniau Chwarae Gwyliau’r Haf eleni gyflwyno’r Gymraeg i weithgareddau chwarae ym mhob safle a oedd yn cyd-fynd â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir y Fflint. Yn ogystal â hyn, yr oedd o leiaf un aelod o staff a oedd yn siarad Cymraeg yn bresennol mewn 10 safle a oedd yn galluogi darpariaeth ehangach ar gyfer plant Cymraeg eu hiaith. Hefyd, yn ystod haf 2023, cofrestrodd 32 o blant ac unigolion ifanc ar y Cynllun Cyfeillio, gan roi mynediad iddynt i Gynllun Chwarae eu cymuned leol. Roedd y Cynllun Cyfeillio yn cefnogi cynhwysiant, hygyrchedd ac ymgysylltiad i bob plentyn, waeth beth fo'u gallu. Sicrhawyd y cyllid ar gyfer y Cynllun Cyfeillio trwy grant Teuluoedd yn Gyntaf.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) fod y Cynlluniau Chwarae yn cael eu cefnogi gan 30 o Gynghorau Tref a Chymuned a bod amrywiaeth o gynlluniau yn cael eu cynnig. Yn rhan o argymhelliad 3, sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, cynigiwyd newid hwn naill ai’n gynllun 3 neu 6 wythnos. Byddai hyn yn helpu i reoli a staffio'r safleoedd, ac eglurwyd sut y gallai cael dau safle 3 wythnos fod o fudd i gymuned. Roedd yn anodd datblygu'r gwasanaeth ar hyn o bryd a chyfeiriodd at yr argymhelliad bod Cynghorau Tref a Chymuned yn ystyried y posibilrwydd i ymrwymo mewn egwyddor i gylch ariannu 3 blynedd a fyddai'n galluogi i ddarpariaeth ac amcanion hirdymor mewn cymunedau gael eu hystyried.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) hefyd fod Datblygiad Chwarae Sir y Fflint yn cynllunio dyfodol arloesol a chynaliadwy i ddarpariaeth ac ymrwymiad i blant yn Sir y Fflint. Gan ddefnyddio’r ddarpariaeth lwyddiannus yn ystod gwyliau’r haf fel patrwm, y nod oedd cynnig darpariaethau gwyliau yn ystod pob gwyliau ysgol. Amlinellwyd manteision yr ymrwymiad hwn yn yr adroddiad.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ryan McKeown faint o blant a oedd yn mynd i gynlluniau chwarae’r haf yn 2023 a oedd yn cael prydau ysgol am ddim, sut yr oedd hyn yn cymharu â blynyddoedd blaenorol ac a oedd data y gellir eu cymharu ynghylch plant sy’n cael prydau ysgol am ddim ledled Sir y Fflint. Cyfeiriodd at y 25 o gynlluniau a oedd yn cynnal cynlluniau 4 neu 5 wythnos yn ystod haf 2023 a gofynnodd a oedd swyddogion yn rhagweld y byddai’r cynlluniau hyn yn cynyddu i 6 wythnos neu’n lleihau i 3 wythnos, fel y cynigir yn argymhelliad 3. Gofynnodd hefyd pryd y byddai cyswllt â Chynghorau Tref a Chymuned yn digwydd ynghylch newidiadau arfaethedig ar gyfer Cynllun Chwarae Gwyliau’r Haf 2024.

 

            Eglurodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) nad oedd gan y gwasanaeth wybodaeth am blant sy'n mynd i’r cynllun a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond y gellid rhannu'r wybodaeth oedd ganddynt â'r swyddogion perthnasol er mwyn gwneud dadansoddiad. O ran y 25 o safleoedd arweiniol, dywedodd na fyddai'r cynnydd i ddarpariaeth 6 wythnos yn cael effaith ariannol sylweddol. Gwnaeth hefyd gadarnhau bod llythyrau at Gynghorau Tref a Chymuned yn cael eu drafftio ar hyn o bryd. 

 

            Eglurodd y Cynghorydd McKeown y byddai'r wybodaeth am nifer y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n mynd i’r cynllun chwarae yn ddefnyddiol ac yr oedd yn credu y gellid ystyried hyn yn rhan o waith y Gweithgor Prydau Ysgol.   Dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint) fod hyn yn rhywbeth y bydden nhw’n ei gefnogi a bod y gwasanaeth wedi bod yn ymwneud â chyflwyno'r rhaglenni bwyd a ffitrwydd hwyliog a mynd i'r afael â bod yn llwglyd dros y gwyliau.  Nododd y cymhlethdodau ynghlwm â dosbarthu bwyd i safleoedd a oedd ar agor am ychydig orau’n unig bob dydd, ond dywedodd y byddai'r gwasanaeth yn cefnogi cyfranogiad darpariaeth ieuenctid a chwarae.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at Glwb Pontio Coed-llai, y darparwyd manylion amdano yn Atodiad 6 yr adroddiad ac awgrymodd fod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad mwy cynhwysfawr am lwyddiant y cynllun mewn cyfarfod yn y dyfodol.  Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) y byddai'n fodlon darparu adroddiad arall i'r Pwyllgor. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r gwahanol boblogaethau ym mhob un o’r Cynghorau Tref a Chymuned ac yr oedd gan yr un lleiaf 278 eiddo ac yr oedd hanner y Cynghorau Tref a Chymuned yn cynnal cyllideb o lai na £50,000 y flwyddyn. Credai y gallai fod yn anodd i rai ddarparu cyllid ychwanegol i symud tuag at gynyddu i gynllun 6 wythnos a chynllun gwyliau ysgol gydol y flwyddyn.  Wrth ymateb i hyn, yr oedd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) yn deall yr heriau ariannol a wynebwyd a dywedodd fod gwaith yn cael ei wneud ar y cyd i asesu a oedd ffrydiau ariannu ychwanegol ar gael. Eglurodd y gallai’r Cynghorau Tref a Chymuned hynny sy’n ariannu cynlluniau 4 wythnos ostwng i 3 wythnos a thrwy hyn, arbed arian, ond pe bai Cyngor Tref neu Gymuned yn ariannu dau safle 4 wythnos, gallai’r rhain barhau fel un safle 6 wythnos a bydd y gymuned yn elwa o ddarpariaeth drwy gydol yr haf yn hytrach na chynllun byrrach ar ddechrau gwyliau’r haf.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst bryder ynghylch y problemau â’r system TG nad oedd wedi caniatáu i rieni gofrestru eu plant ychydig ddyddiau cyn i’r cynlluniau ddechrau ac nad oedd y deunydd hysbysebu ar gael tan ychydig ddyddiau cyn i’r cynlluniau ddechrau a oedd yn golygu nad oedd rhai rhieni'n ymwybodol bod y ddarpariaeth yn rhedeg. Mewn ymateb i hyn, cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) eu bod nhw wedi cael gwybod am y problemau TG a'u bod nhw wedi'u datrys yn brydlon. Cytunodd bod y deunydd hysbysebu wedi bod yn hwyr a chadarnhaodd fod gwaith yn cael ei wneud nawr yn barod ar gyfer yr ymgyrch hyrwyddo y flwyddyn nesaf i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y 5,000 o boteli o dd?r a ddarparwyd ac awgrymodd fod poteli y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu darparu ar ddiwrnod cyntaf y cynllun y gallai'r plant eu hail-lenwi eu hunain a dod â hwy gyda nhw i’r diwrnodau sy’n weddill o'r cynllun.  Dywedodd y byddai hyn yn helpu i leihau'r defnydd o blastig a hefyd yn fudd ariannol y gellid ei ddefnyddio ar gyfer gwobrau/tystysgrifau i blant wrth hybu ailgylchu. Cefnogodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) yr awgrym hwn gan y Cynghorydd Banks.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Banks roi gwybodaeth hefyd am y ddau gynllun a gefnogwyd yn ei ward a oedd yn cynnwys nifer fawr o bentrefi. Cyfeiriodd at y cynnig i Gynghorau Tref a Chymuned ymrwymo i gylch ariannu tair blynedd a gofynnodd a ellid rhoi sicrwydd na fyddai unrhyw gynnydd ariannol yn ystod y tair blynedd. Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal â Chynghorau Tref a Chymuned, ac adroddodd ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn ymwneud â safleoedd y flwyddyn nesaf. Gan gyfeirio at y cyllid tair blynedd dywedodd y byddai'r costau a ragwelwyd yn cael eu darparu a bwriedir peidio â symud oddi wrth hyn oni bai bod newid sylweddol. O ran y Cynghorau Tref neu Gymuned hynny a gyflwynodd eu cynlluniau eu hunain, roedd e’n cefnogi hyn yn llwyr a dywedodd bod hyfforddiant yn cael ei gynnig i'w staff yn rhad ac am ddim i sicrhau bod y ddarpariaeth chwarae i gyd yn Sir y Fflint yn cael ei chynnal yn yr un modd. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Banks am eglurhad ar argymhelliad 1, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a chadarnhaodd Arweinydd y Cyngor y gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi'r cynnig i drafod â Chynghorau Tref a Chymuned ar gylch ariannu tair blynedd. Awgrymodd yr Hwylusydd, yn dilyn y sylwadau gan y Cynghorydd Banks, bod argymhelliad 1 yn cael ei ddiwygio i “bod y Pwyllgor yn cefnogi Gwasanaethau Ieuenctid wrth gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned ynghylch cylch ariannu tair blynedd mewn egwyddor ar gyfer darpariaeth chwarae cymunedol.”

 

            Gwnaeth y Cadeirydd ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad ac yr oedd yn falch o weld y wybodaeth am nifer y safleoedd a ddarparwyd, y plant yn cymryd rhan a bod y cynllun cyfeillio yn dal i fod ar waith. Roedd hefyd yn falch o weld bod hyn yn cael ei gefnogi gan y 3 aelod o’r tîm o Wcráin a’r 10 aelod o’r tîm sy’n siarad Cymraeg a bod y Gymraeg yn cael ei hybu.

           

Cafodd yr argymhelliad cyntaf, fel y'i diwygiwyd, a gweddill yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Glyn Banks a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.

  

PENDERFYNWYD:

  

(a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi Gwasanaethau Ieuenctid wrth gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned yn sgil cylch ariannu tair blynedd mewn egwyddor ar gyfer darpariaeth chwarae cymunedol;

 

(b)     Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Gwasanaethau Ieuenctid i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, fel Dysgu Oedolion yn y Gymuned i gynnig pecyn hyfforddiant cynhwysfawr i aelodau’r tîm Datblygu Chwarae i gyd i sicrhau bod darpariaeth Gwaith Chwarae o'r safon uchaf;

 

(c)     Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Gwasanaethau Ieuenctid i gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned i ddewis naill ai safleoedd tair neu chwe wythnos yn unig, er mwyn hwyluso recriwtio, cynllunio, parhad busnes a defnydd effeithlon o adnoddau;

 

(d)     Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo 'Rhaglen Bontio' gan Wasanaethau Datblygu Chwarae ac Ieuenctid Sir y Fflint, er mwyn paratoi plant yn effeithiol ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau drwy strategaethau ymdopi yn seiliedig ar chwarae, a oedd yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf; a

 

(e)     Bod y Pwyllgor yn ymrwymo i gefnogi Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol trwy eiriolaeth, mynd i gyfarfodydd, a mynd i ddigwyddiadau lleol a fyddai’n helpu i ddatblygu’r Gr?p Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol, hyrwyddo cynhwysiant, denu cyllid allanol ychwanegol, cynyddu ymgysylltiad cymunedol a helpu i greu rhwydweithiau cryfach sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles plant.

 

Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield

Dyddiad cyhoeddi: 22/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/10/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: