Manylion y penderfyniad
Budget 2024/25 - Stage 2
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To review and comment on the budget pressures and cost reductions under the remit of the Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25. Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu’r pwysau ar y gyllideb a dewisiadau gostwng costau ym meysydd Llywodraethu, Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau, fel y nodwyd yn y cyflwyniad a oedd yn cwmpasu:
· Pwrpas a Chefndir
· Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol ar gyfer y Cyngor yn 2024/25
· Risgiau Parhaus
· Y sefyllfa gyffredinol wedi’r datrysiadau cychwynnol
· Pwysau Costau a Gostyngiadau yn y Gyllideb
· Y Camau Nesaf ar gyfer Gosod Cyllideb 2024/25
Yr oedd yr isafswm gofyniad cyllidebol o £32.386 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25 yn cymryd i ystyriaeth nifer o risgiau parhaus, gan gynnwys cyflogau’r sector cyhoeddus, y galw uchel am rai gwasanaethau a phwysau chwyddiannol a oedd yn cael eu monitro. Byddai cymryd datrysiadau cychwynnol i ystyriaeth yn gadael bwlch o £14.042 miliwn ar ôl yn y gyllideb, a oedd yn achosi her fawr i’r Cyngor os nad oedd unrhyw symudiad am fod yn y cynnydd dangosol o 3.1% yn setliad Llywodraeth Cymru (LlC). Yr oedd y cyflwyniad yn amlygu’r angen am raglen strategol o newid trawsffurfiol i sicrhau bod y Cyngor yn datblygu gostyngiadau mewn costau dros y tymor canolig i amddiffyn ei sefyllfa ariannol barhaus yn y dyfodol ac i baratoi ar gyfer heriau cyllidebol yn y dyfodol a oedd yn anochel.
Gofynnid i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu pwysau costau portffolios, dewisiadau effeithlonrwydd a risgiau cysylltiedig yn drylwyr, a nodi unrhyw feysydd ychwanegol o effeithlonrwydd costau. Byddai crynodeb o ganlyniadau o’r sesiynau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yng nghyfarfod mis Tachwedd, a fyddai’n agored i bob Aelod. Yn dilyn derbyn y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr, yng nghyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Ionawr byddai raid ystyried y gostyngiadau cyllidebol pellach sydd eu hangen i lenwi’r bwlch sydd ar ôl yn y gyllideb er mwyn i’r Cyngor fodloni ei rwymedigaeth statudol o osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror 2024.
Llywodraethu
Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n ag effaith y cynnig o gael gwared â swydd wag Archwilio Mewnol. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Rheolwr Archwilio Mewnol wedi cynnig y swydd wag hirdymor hon fel effeithlonrwydd yn dilyn newidiadau yn strwythur y tîm, ac y byddai’n cyflawni ei dyletswydd drwy roi barn archwilio flynyddol yn seiliedig ar y lefel o adnoddau sydd ar gael.
Parthed gwasanaethau a rennir, rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG enghreifftiau o gyfranogiad y Cyngor mewn fforwm cenedlaethol yn ogystal â gwaith arall ar y cyd ar ddiogelwch seibr. Dywedodd mai pwysau Technegydd Seibr oedd cefnogi swydd a oedd wedi ei hariannu ar gyfer 2023/24, a chynghorodd yn erbyn swydd wedi ei rhannu oherwydd y risg uchel yn ymwneud â bygythiadau seibr yn y DU.
Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yngl?n â chael gwared â swydd Archwilio Mewnol, a chwestiynodd yr atebolrwydd posibl o golli’r swydd.
Nid oedd y Prif Swyddog yn disgwyl unrhyw effaith ar achosion o dwyll a chamgymeriadau o ganlyniad i gael gwared â’r swydd, gan fod atal twyll yn gyfrifoldeb i’r gwasanaethau unigol. Wrth gael ei holi, dywedodd fod hyn yn cynrychioli risg gwyrdd yng ngwytnwch y gwasanaeth, oherwydd gallai leihau capasiti ar gyfer unrhyw waith heb ei gynllunio ac effeithio, o bosibl, ar waith wedi ei gynllunio. Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson i’r dewis hwn gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er mwyn ei ystyried.
Parthed ymholiadau eraill, rhoddwyd eglurhad nad oedd y tanwariant staffio yn Sir y Fflint yn Cysylltu o ganlyniad i broblemau recriwtio a chadw. Yr oedd yr arbediad o ganlyniad i’r gwahaniaeth rhwng y gyllideb gyfredol a ddyrannwyd a’r swm o arian sydd ei angen i ariannu’r strwythur staffio a gymeradwywyd. Eglurwyd hefyd bod pwysau costau TG naill ai ar gyfer uwchraddio technoleg bresennol neu ar gyfer darparu datrysiadau ychwanegol, ac nid oedd unrhyw gynlluniau i derfynu trwyddedau ar gyfer meddalwedd sydd â ffi drwydded gylchol.
Gofynnodd y Cynghorydd David Coggins Cogan a ellid alinio pwysau costau Technegydd TG Ysgolion gyda phwysau costau Technegydd Diogelwch Seibr er mwyn galluogi’r ddwy swydd i weithio ar y cyd i gynyddu gwytnwch ar ddiogelwch seibr.
Wrth egluro’r gwahaniaethau rhwng y ddwy swydd, cytunodd Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG i ystyried goblygiadau cost yr awgrymiad hwn. Cytunodd hefyd i ystyried awgrym y Cadeirydd i gyfuno’r ddwy swydd i un er mwyn creu £32,000 o arbediad; fodd bynnag, dywedodd ei bod yn annhebygol y gallai un unigolyn wneud lefel y gwaith.
Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar yr angen i LlC ddarparu cymorth ariannol i bob Cyngor i sicrhau bod dull gweithredu cyson ar gyfer mynd i’r afael â diogelwch seibr. Wrth ymateb, eglurwyd bod LlC ar hyn o bryd yn ariannu’r ganolfan gweithrediadau diogelwch, a oedd yn adnodd canolog ar gyfer awdurdodau yng Nghymru.
Gwasanaethau Corfforaethol
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew, eglurwyd bod cyfraniadau i Wasanaeth y Crwner ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn seiliedig ar y boblogaeth fesul sir.
Parthed Theatr Clwyd, holodd y Cynghorydd Attridge yngl?n â goblygiadau penderfyniadau a wnaed yn flaenorol gan y Cyngor yn dilyn y gostyngiad mewn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau. Dywedodd y Prif Weithredwr fod ymrwymiadau’r Cyngor wedi eu nodi’n glir yn y cytundeb cyfredol, a oedd yn parhau tan 2026.
Wedi cwestiwn arall, cadarnhaodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y pwysau cost o £365,000 ar gyfer Modelau Cyflawni Amgen a Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol yn adlewyrchu’r cynnydd chwyddiannol a ragwelir o’r cyfraniadau presennol i Hamdden Aura, Arlwyo a Glanhau NEWydd, Canolfan Hamdden Treffynnon, Cambrian Aquatics a Theatr Clwyd. Yn ôl cais y Cynghorydd Attridge, byddai dadansoddiad o’r swm hwnnw yn cael ei ddarparu i’r Aelodau. Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd y byddai adroddiad diweddaru ar Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn cael ei rannu hefyd gyda’r Pwyllgor, yn unol â chais blaenorol.
Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Sam Swash yngl?n â’r ddau gynllun sy’n cael eu cyflwyno dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer 2024/25. Parthed pwysau costau chwyddiannol ar gyfer Cydbwyllgorau Corfforedig, cwestiynodd y manteision i’r Cyngor, ac yna rhannodd y Cadeirydd ei farn bersonol na ddylid gwneud unrhyw gyfraniadau ychwanegol.
Dywedodd y Prif Weithredwr y disgwylid manylion allweddol yngl?n â’r ddwy brif ffrwd waith mewn perthynas â chludiant a chynllunio rhanbarthol, a oedd yn cael eu datblygu yn y Cydbwyllgor Corfforedig.
Cododd y Cynghorydd Ibbotson gwestiynau am bwysau costau yn ymwneud â Modelau Cyflawni Amgen / Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol, a gwnaeth sylw am y cynnydd yn ystod y flwyddyn yn y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a ragwelir ar gyfer diwedd y flwyddyn. Cadarnhawyd na chynhwyswyd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru gan ei fod yn is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr y Cyngor ac y byddai cyfraniadau gan y Cyngor i Fodelau Cyflawni Amgen / Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn cael eu hadolygu a’u herio fel rhan o’r broses o osod cyllideb.
Wrth ymateb i gwestiynau eraill, dywedodd y swyddogion mai’r pwysau cost ar gyfer y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd oedd cyfraniad tuag at y cam dylunio a datblygu, ac yr oedd y gwaith adeiladu’n debygol o ddigwydd yn 2025/26 a 2026/27. Fel y dywedwyd yn ystod y cyflwyniad, byddai’r pwysau cost ar gyfer elfen arian cyfatebol y cais aflwyddiannus i Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei ddileu, a byddai’n cael ei adlewyrchu fel arbediad mewn diweddariadau cyllidebol yn y dyfodol. Rhoddwyd eglurhad hefyd yngl?n â phrosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) ym Mynydd Isa o fewn rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac yr oedd estyniad Ysgol Gynradd Gymunedol Penyffordd yn cael ei ariannu o’r Rhaglen Gyfalaf graidd.
Gwnaeth y Cynghorydd Ibbotson sylw am y diffyg cynnydd ar y Cydbwyllgor Corfforedig o ystyried lefel y cyllid a’r adnoddau a ddyrannwyd, a chwestiynodd a allai cyfraniadau alinio gyda’r fformiwla ariannu yn hytrach na’r boblogaeth. Yr oedd y Cadeirydd yn rhannu’r pryderon hyn, ac awgrymodd ef adroddiad diweddaru yn y dyfodol. Siaradodd y Prif Weithredwr am y gofynion a osodwyd gan y fframwaith cyfreithiol, ond byddai’n codi mater y model ariannu yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor Corfforedig.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Coggins Cogan yngl?n â gwerth am arian ar y Cydbwyllgor Corfforedig, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ei sylwadau ar y ddwy brif ffrwd waith, a dywedodd fod trafodaethau wedi bod i liniaru cynnydd pellach i gyfraniadau.
Cwestiynodd y Cynghorydd Glyn Banks a allai’r Cyngor geisio cael ei eithrio rhag Ardoll Brentisiaethau, gan ei fod yn sefydliad nad yw’n gwneud elw. Parthed Theatr Clwyd, mynegodd bryderon yngl?n â’r effaith ar y Cyngor yn deillio o’r diffyg yn y cyllid gan Gyngor y Celfyddydau. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r swyddogion roi ystyriaeth i hyn ac yna cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor.
Wrth siarad am yr heriau o ran penderfynu ar gyllid ar gyfer gweithio ar y cyd, rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts sicrwydd o rôl y Cyngor yn y partneriaethau hynny a pharhaodd i wneud sylwadau. Siaradodd o blaid y consensws cynyddol y dylai Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ddod yn awdurdod praeseptio ar y Cyngor hwn (ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru), gan awgrymu efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried anfon llythyr i LlC a’r Swyddfa Gartref parthed hyn.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gellid anfon y llythyr, gyda chytundeb y Pwyllgor, i Archwilio Cymru hefyd cyn ei adolygiad o drefniadau llywodraethu Awdurdodau Tân.
Asedau
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ibbotson yngl?n â dileu dewisiadau mewn perthynas ag ailstrwythuro Swyddfa Strategaeth, eglurodd y Prif Weithredwr fod y gwerth cymdeithasol a manteision cymunedol a geir wrth gadw’r swyddi hynny yn gwrthbwyso’r arbediad effeithlonrwydd.
Yn unol â chais, byddai mwy o fanylion am yr arbediad o £10,000 sy’n deillio o uno swyddogaethau ym maes Prisio ac Ystadau yn cael eu rhannu, ynghyd â dadansoddiad cyfrinachol o’r arbediad o £28,000 o gyllid trydydd sector, gan gynnwys y sefydliadau cysylltiedig.
Rhannodd y Cynghorydd Coggins Cogan bryderon yngl?n â’r dewis i’r Cyngor ddileu tanysgrifiad Stonewall gan ei bod yn bwysig ei gadw, a swm bychan ydoedd. Fe’i cefnogwyd gan y Cynghorydd Roberts, a ddywedodd y dylid cadw hyn ar restr o ddewisiadau ‘posibl’; a chytunodd y Cadeirydd.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u diwygiwyd, eu cynnig a’u heilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor, wedi adolygu’r pwysau costau a’r dewisiadau i ostwng cyllidebau ym maes Llywodraethu, yn gwneud y sylwadau canol:
· Bod ymgynghori’n digwydd gyda’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio parthed cael gwared â swydd wag Archwilio Mewnol;
· Bod swyddogion yn adolygu’r pwysau ar gyfer Technegydd TG Ysgolion a Thechnegydd Diogelwch Seibr i archwilio dichonoldeb (i) cynyddu un cyflog yn unol â’r llall er mwyn cynyddu gwytnwch drwy fod y ddwy swydd yn cefnogi ei gilydd; a (ii) chyfuno’r ddwy swydd er mwyn creu arbediad o £32,000.
(b) Bod y Pwyllgor, wedi adolygu’r pwysau costau a’r dewisiadau i ostwng cyllidebau yn y Gwasanaethau Corfforaethol, yn gwneud y sylwadau canol:
· Bod y Prif Weithredwr a Phrif Swyddog (Llywodraethu) yn ymgysylltu â’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor i anfon llythyr ar ran y Cyngor i Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref ac Archwilio Cymru i wneud cais am rym praesept ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Sir y Fflint.
(c) Bod y Pwyllgor, wedi adolygu’r pwysau costau a’r dewisiadau i ostwng cyllidebau ym maes Asedau, yn gwneud y sylwadau canol:
· Nid yw’r Pwyllgor yn cefnogi dileu aelodaeth Stonewall, ond mae’n derbyn bod hyn yn cael ei gynnwys ar y rhestr o ddewisiadau posibl os oes angen.
Awdur yr adroddiad: Kara Bennett
Dyddiad cyhoeddi: 08/01/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Accompanying Documents: