Manylion y penderfyniad

Budget 2024/25 – Stage 2

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review and comment on the budget pressures and cost reductions under the remit of the Committee.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Strategaeth Ariannol ac Yswiriant adroddiad a oedd yn cynnwys adolygiad a sylwadau yngl?n â’r gwasgfeydd cyllidebol a gostyngiadau mewn costau a oedd yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor.  Rhoes gyflwyniad ynghylch y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a threfn Gosod Cyllideb 2024/25 a oedd yn ymdrin â’r materion canlynol:

 

  • pwrpas a chefndir
  • gofynion ychwanegol ar gyllideb y Cyngor 2024/25
  • gofynion ychwanegol ar y gyllideb – risgiau parhaus
  • y sefyllfa gyffredinol wedi’r datrysiadau cychwynnol
  • crynodeb a chasgliadau
  • y camau nesaf ar gyfer trefn Gosod Cyllideb 2024/25
  • trefn y gyllideb – Cam 2
  • trefn y gyllideb – Cam 3 (Terfynol).

 

Rhoes y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) gyflwyniad yngl?n â gwasgfeydd costau a oedd yn ymdrin â’r materion canlynol:

 

  • Y galw oherwydd digartrefedd
  • Budd-daliadau – Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans bod yr adroddiad yn sôn am y cynnig i ostwng y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, ond nad oedd unrhyw ddewisiadau ar gyfer lleihau’r gwasgfeydd costau wrth ateb y galw oherwydd digartrefedd.  Gan fod Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi dweud nad oedd unrhyw gynlluniau i ddarparu llety i fewnfudwyr yng Ngwesty Northop Hall, awgrymodd y Cynghorydd y gellid ystyried cysylltu â’r gwesty i holi a fedrent roi llety i bobl ddigartref er mwyn lleihau’r wasgfa ar y gyllideb.  Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai adroddiad yn dod gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf yngl?n â’r dewisiadau ar gyfer lleihau’r gwasgfeydd costau oherwydd digartrefedd.  Roedd nifer o ddewisiadau dan ystyriaeth, gan gynnwys defnyddio’r stoc tai presennol yn fwy effeithlon, a byddai’r adroddiad i’r Pwyllgor yn cynnwys yr holl ddewisiadau hynny.

 

Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Evans, dywedodd y Cynghorydd Linda Thew nad oedd ond 37 o ystafelloedd yng Ngwesty Northop Hall a bod y cynlluniau i roi llety i fewnfudwyr yno’n cynnwys gosod cabanau ychwanegol yng ngerddi’r gwesty.  Eglurodd hefyd bod y gwesty’n dal i weithredu fel busnes a dywedodd na fyddai’n dymuno gweld pobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn cabanau.  Eglurodd y Cynghorydd Evans nad oedd yn awgrymu rhoi pobl mewn cabanau.

 

Cytunodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin â sylwadau’r Cynghorydd Evans, gan ddweud bod yn rhaid i’r Cyngor ystyried yr holl ddewisiadau er mwyn lleihau’r gwasgfeydd costau oherwydd digartrefedd a bod yn rhaid i’r holl Aelodau fod yn ymwybodol o’r tai yn eu wardiau y gellid ystyried eu defnyddio.  Cyfeiriodd hefyd at y gwasgfeydd costau oherwydd Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a gofynnodd a ellid darparu gwybodaeth am y lleoliadau yn y flwyddyn flaenorol.  Awgrymodd y Rheolwr Cyllid Strategol y gellid rhannu’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd y Cyngor wedi cynnal trafodaethau â pherchnogion Gwesty Northop Hall.  Pryderai yngl?n â gosod atebolrwydd cyfreithiol ar y gwesty, ac a fyddai’r Cyngor yn gyfrifol am bobl ddigartref a gâi lety yno, yn ogystal â’r costau.  Roedd o’r farn y dylai’r Pwyllgor ystyried unrhyw gynigion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal nad oedd y Cyngor yn cynnal unrhyw drafodaethau â pherchnogion y gwesty ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester a oedd y Cyngor wedi ystyried yr holl ddewisiadau ar gyfer darparu llety i bobl ddigartref.  Awgrymodd lety ym Mrychdyn a Bretton a oedd yn agos at gyfleustodau lleol ac eisoes wedi’i ddefnyddio, a gofynnodd a fyddai tai tafarn â llety neu lety Airbnb yn cael eu hystyried.  Gofynnodd y Cadeirydd am ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor yngl?n â’r llety/eiddo a ddefnyddid ar gyfer pobl ddigartref. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y gellid darparu’r wybodaeth i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod, ond eglurodd bod y wybodaeth honno’n gyfrinachol ac yn ymdrin â phobl ddiamddiffyn, ac felly na fyddai’n fodlon cyflwyno’r wybodaeth yn gyhoeddus.  Wrth ateb y Cynghorydd Selvester, dywedodd fod pob math o lety dan ystyriaeth ond bod y Cyngor yn chwilio am lety o ansawdd da yn hytrach na gwelyau’n unig.  Byddai’r adroddiad a ddeuai gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf yn cyflwyno’r holl ddewisiadau a fu dan ystyriaeth i leihau’r wasgfa ar y gyllideb a helpu pobl ddigartref i gael rhywle i fyw.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod polisi Llywodraeth Cymru i sicrhau fod pawb oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn cael llety yn un da, ond fod angen darparu adnoddau ariannol i fedru gweithredu’r Polisi hwnnw.  Dywedodd fod angen ystyried yn bwyllog a ddylid ail-ddynodi’r stoc tai gwarchod i leihau’r wasgfa ar y gyllideb, gan y gallai hynny effeithio’n negyddol ar gymunedau.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Selvester ei sylwadau blaenorol a dywedodd fod ystafelloedd mewn tai tafarn yn rhatach na gwestai gan nad oedd angen talu am bethau ychwanegol nad oedd eu hangen, a gofynnodd a oedd y Cyngor wedi cysylltu â pherchnogion unrhyw dafarndai yn Sir y Fflint.  Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal i’r Cynghorydd Selvester roi gwybod am unrhyw berchnogion yr oedd yn ymwybodol ohonynt fel y gellid gwneud ymholiadau.

 

Holodd y Cynghorydd Pam Banks a roddid ystyriaeth i roi llety i bobl mewn safleoedd carafanau.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau – Tai ac Atal y câi hynny ei ystyried ond bod safleoedd carafanau’n aml yn anwadal o ran y llety y gellid ei gynnig, a’i bod yn bwysig ystyried parhad y lleoliadau yn ogystal â’r gost.

 

Croesawodd y Cynghorydd Evans y sylwadau yngl?n â’r gefnogaeth a ddarperid i bobl oedd yn datgan eu bod yn ddigartref i ddod o hyd i gartref parhaol, a chredai bod yr holl Aelodau o blaid hynny.  Cyfeiriodd at yr eitem ar y rhaglen yngl?n ag eiddo gwag a’r angen i gwblhau gwaith arnynt yn gynt i leihau’r gwasgfeydd costau oherwydd digartrefedd.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cadarn, gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael, a oedd y Pwyllgor o’r farn y datrysid y gorwariant o £2.7 miliwn.  Eglurodd bod maint yr heriau’n sylweddol a gofynnodd am farn y Pwyllgor yngl?n â’r dewisiadau ar gyfer cwtogi ar y gyllideb.   Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn anodd i’r Pwyllgor fynegi barn gan nad oedd unrhyw ddewisiadau i leihau’r gwasgfeydd ar y gyllideb ar gyfer digartrefedd, a’i bod yn pryderu y byddai’r dewis a gynigwyd i gwtogi ar gyllideb Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn creu gwasgfa ar gyllideb y flwyddyn nesaf. 

 

            Credai’r Cynghorydd Dolphin na chafodd y Pwyllgor ddigon o wybodaeth i benderfynu ynghylch yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a chynigiodd y dylid nodi’r gwasgfeydd costau a’r dewisiadau ar gyfer cwtogi ar gyllidebau.  Eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gwasgfeydd costau yn y portffolio Tai a Chymunedau; ac

 

(b)       Nodi’r dewisiadau ar gyfer cwtogi r gyllidebau yn y portffolio Tai a Chymunedau.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: