Manylion y penderfyniad
Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd).
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.
4.1 Penderfyniad ar y Cais
Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Ymgeisydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau’r Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys y manylion am yr euogfarnau, polisïau’r Cyngor ar euogfarnau a’r canllawiau statudol, yn ogystal â’r eglurhad a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd. Roedd hyn hefyd yn cynnwys y bydd yr Ymgeisydd yn delio â sefyllfa debyg lle'r oedd wedi derbyn euogfarn o ymosod trwy ddefnyddio trais unwaith eto.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor nifer a natur euogfarnau blaenorol yr Ymgeisydd fel y nodwyd yn yr adroddiad. Er nad oedd yr Ymgeisydd wedi bod o flaen y Llys ers nifer o flynyddoedd, nododd yr Is-bwyllgor y canllawiau mewn perthynas â throseddu ailadroddus.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor er bod yr Ymgeisydd yn eithaf ifanc ar y pryd, roedd yn dal i fod yn oedolyn, ac yn anffodus aeth ymlaen i barhau i droseddu. Yn ogystal â hyn, roedd ei euogfarnau mwy diweddar hefyd yn ymwneud â’i allu i yrru a dilyn amodau trwydded ac yswiriant priodol.
Nid oedd yr Is-bwyllgor yn gallu anwybyddu’r canllawiau mewn perthynas â throseddu ailadroddus nac mewn perthynas â throseddau o drais.
Felly, nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried pob posibilrwydd, fod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat. Cafwyd penderfyniad unfrydol i wrthod y cais.
4.2 Penderfyniad
Bod y cais yn cael ei wrthod, gan nad oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Ar ôl darllen penderfyniad yr Is-bwyllgor (fel yr uchod) a chyn cloi’r cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd wrth yr Ymgeisydd fod ganddo’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, ac y byddai copi ysgrifenedig o’r penderfyniad yn cael ei anfon ato.
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2023
Dyddiad y penderfyniad: 18/09/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/09/2023 - Is-bwyllgor Trwyddedu