Manylion y penderfyniad

Self-Evaluation Report Education Services 2022-23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update Members on overall service performance 22-23 and Learner Outcomes from 2022.

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad wedi cael ei lunio yn unol â Fframwaith Estyn presennol ar gyfer Archwilio Gwasanaethau Llywodraeth Leol oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau, cydraddoldeb gwasanaethau addysg, arweinyddiaeth a rheoli.  Fe gadarnhaodd bod Estyn yn dod at ddiwedd y gylched arolygu, a’u bod yn disgwyl bod wedi gorffen eu harolygon erbyn diwedd haf 2024.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod Estyn wrthi’n llunio fframwaith newydd o hydref 2024 ymlaen.  Fe eglurwyd er bod yr Awdurdod wedi cael ei arolygu yn 2019, roedd yn debygol y gallai’r arolwg nesaf fod yn agos at ddechrau’r fframwaith newydd, gyda gwaith cynllunio yn parhau ar gyfer cychwyn y gylched nesaf o arolygon.  Fe amlygwyd yr argymhellion a wnaed gan Estyn yn yr adroddiad a oedd hefyd yn darparu crynodeb fanwl o waith sy’n cael ei wneud i ymateb i’r argymhellion. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill am eglurhad am y Graddau Cyflwr a restrwyd yn A, B, C a D a nodwyd yn rhan o’r Arolwg Addasrwydd. Fe eglurodd y Prif Swyddog fod arolygon yn cael eu cynnal ar ystâd yr ysgol ar sail gylchol, oedd yn cynnwys arolygon am addasrwydd yr adeilad i ddarparu darpariaeth addysg briodol.  Roedd yna hefyd arolwg am gyflwr adeiladau ysgolion yn erbyn safonau’r diwydiant ac roedd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i benderfynu lle’r oedd angen gwaith cynnal a chadw hanfodol neu raglen moderneiddio ysgolion radical.  Fe awgrymodd fod yr Uwch Reolwr Cynllunio Lleoedd Ysgol yn rhoi nodyn briffio byr ar ôl y cyfarfod er mwyn egluro’r gwahaniaethau yn y graddau cyfle i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuil, a’i eilio gan y Cynghorydd Carolyn Preece.                

      

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer cyfnod 2022 - 2023.

 

Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield

Dyddiad cyhoeddi: 22/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: