Manylion y penderfyniad
School Reserve Balances year ending 31 March 2023
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Committee with details of the
closing balances held by Flintshire schools at the end of the
financial year.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a diolchodd y Rheolwr Cyllid Strategol am y gwaith a wnaed yn dod â’r adroddiad at ei gilydd a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Fforwm Cyllideb yr Ysgol. Roedd yr adroddiad wedi cael ei rannu gyda phob Pennaeth hefyd.
Cyn cyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at dabl 3 yn yr adroddiad a dywedodd fod fersiwn diwygiedig wedi cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Roedd yr adroddiad yma wedi cael ei ymestyn i gynnwys chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol i roi amlinelliad o’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion a thynnodd y Rheolwr Cyllid Strategol sylw at y gostyngiad mewn cyllid o 3% ar ben y cynnydd mewn chwyddiant i ysgolion yn y flwyddyn ariannol bresennol. Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa o ran y cronfeydd wrth gefn ac roedd Tabl 1 yn amlygu’r cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23 o’i gymharu â 2021/22. Rhoddwyd gwybodaeth am yr effeithiau ar gyllidebau ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, gyda gostyngiad o £12.5miliwn i £7miliwn, ac roedd yr atodiad yn tynnu sylw at y canrannau ar sail ysgol wrth ysgol.
Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at Dabl 2 oedd yn amlygu sut roedd y cronfeydd wrth gefn wedi symud dros y 5 mlynedd ariannol ddiwethaf. Roedd yna bryderon o ran cadernid y sector uwchradd wrth reoli amgylchiadau annisgwyl, megis absenoldeb hir dymor a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar lefel y cronfeydd wrth gefn sydd ar gael. Rhoddodd yr adroddiad ddadansoddiad hefyd ar gyfer y sector cynradd, roedd gan chwe ysgol gynradd gronfeydd wrth gefn negatif ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, roedd tri o’r rhain yn gymharol fach, ond roedd y tri arall yn sylweddol.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod pob ysgol wedi cyflwyno eu cynlluniau cyllideb 2023/24 oedd yn amlygu cynnydd mewn ceisiadau am gefnogaeth gan y Tîm Cyllid, cydweithwyr AD a chydweithwyr mewn Gwella Ysgolion. Bu yna lefelau uwch o ddiswyddiadau gwirfoddol, ac roedd y wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn Nhabl 5 yr adroddiad. Byddai’r Cyfrifiad Gweithlu Blynyddol a fyddai’n cael ei gynnal ym mis Tachwedd yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol, ond teimlwyd nad oedd y sefyllfa o ran diswyddo drosodd eto gan fod ysgolion yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn i reoli eleni gyda risgiau yn 2023/24 neu 2024/25. Roedd Tabl 6 yn yr adroddiad yn rhoi amcangyfrif o’r sefyllfaoedd ym mhob ysgol a rhoddwyd trosolwg o’r wybodaeth a ragwelir o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr amseroedd heriol yn parhau gyda gostyngiadau cyffredinol yng nghronfeydd wrth gefn ysgolion a theimlwyd bod yr adroddiad yn amlygu’r sefyllfa gydag ysgolion yn glir. Diolchodd i Benaethiaid a chyrff llywodraethu am eu gwaith yn ceisio lleihau costau, ac roedd hi’n llwyr ddeall eu rhesymau dros siarad gyda’r Cyngor a GwE i gael help a chymorth.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey am glustnodi cyllidebau ysgolion, fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod cyllid ysgolion ar gyfer y flwyddyn ariannol wedi’i fformiwleiddio ar ôl i’r Cyngor osod ei gyllideb ganol fis Chwefror. O ran y cyllid ar gyfer y dyfarniadau cyflog, fe eglurwyd bod amcangyfrif o’r gyllideb wedi’i neilltuo ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon ac nid oedd dyfarniad cyflog staff cefnogi yn hysbys ym mis Ebrill 2023. Roedd y Cyngor wedi cyllidebau ar gyfer y gost, ond nid oedd y rhain wedi cael eu dyrannu drwy’r fformiwla ariannu nes bod cadarnhad wedi’i gael gan yr ysgolion sydd â’r costau. Mae hyn wedi gweithio’n dda yn y gorffennol gan fod yr ysgolion wedi derbyn swm y dyfarniad cyflog ac nid amcangyfrif. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod ysgolion yn cytuno â’r ddealltwriaeth yma y byddai’r arian yn cael ei ryddhau i’w cyllidebau pan roedd y dyfarniadau wedi’u setlo a’u cwblhau. Roedd cyfathrebu gyda Phenaethiaid a chyrff llywodraethu yn parhau nes bod y dyfarniadau cyflog wedi’u setlo.
Gan ymateb i gwestiwn am gronfeydd wrth gefn ysgolion, fe eglurodd y Prif Swyddog na ddylai unrhyw ysgol fod dan anfantais. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol na ddylai ysgolion fod yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu dyfarniadau cyflog gan fod y risg yn un canolog. Cyn gynted â bod dyfarniad cyflog mis Medi wedi’i gadarnhau gyda’r Cyngor yn derbyn dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon, byddai cyflog yr Athrawon yn mynd i fyny a byddai’r cyllid yn cael ei drosglwyddo i’r ysgolion i dalu am y swm hwnnw.
Roedd y Prif Swyddog yn gwerthfawrogi’r flwyddyn heriol roedd Penaethiaid a Chyrff Llywodraethu wedi’i gael. Rhoddwyd ymrwymiad yr un fath â’r llynedd, wrth i’r gyllideb ar gyfer 2024/25 ddatblygu, byddai cyfathrebu agored ac effeithiol yn parhau gyda Phenaethiaid er mwyn eu diweddaru am y trafodaethau’n cael eu cynnal cyn cael cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi lefel cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2023 a throsolwg o sefyllfa ariannol gyfredol ysgolion.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 22/12/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: