Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy and Budget 2024/25

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update on the budget estimates and strategy for the setting of the 2024/25 budget.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25 cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.  Pwysleisiwyd yr her sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor wrth nodi datrysiadau i gytuno ar gyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth 2024.

 

Yr oedd y rhagolygon diweddaredig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £32.386 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25, gan gymryd i ystyriaeth risgiau parhaus fel y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf ar dâl sector cyhoeddus, yr effaith a amcangyfrifir o newidiadau hysbys i alw mewn gwasanaeth ac effeithiau chwyddiannol parhaus.  Yr oedd yr adroddiad yn nodi newidiadau ers mis Gorffennaf, gan gynnwys risgiau parhaus a allai newid y gofyniad cyllidebol a’r gwaith a wnaed gan bortffolios dros yr haf yn dilyn gweithdai i Aelodau ar y gyllideb ym mis Gorffennaf.  Yr oedd datrysiadau ariannu yn nodi’r canfyddiadau o adolygiadau portffolio, gan gynnwys pwysau costau ac ailystyried dewisiadau eithriedig ar gyfer 2023/24 – a byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystyried y cyfan ym mis Hydref.  Yr oedd crynodeb o’r sefyllfa gyffredinol ddiwygiedig ar y cam hwn yn dangos bod bwlch o £14.042 miliwn yn y gyllideb i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.  Wrth gydnabod yr her gyllidebol fawr ar gyfer 2024/25, parheid i gael sylwadau dros well setliad ledled Cymru.

 

Rhannodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon am y canlyniad posibl yn absenoldeb cynnydd sylweddol yn y setliad gan Lywodraeth Cymru.

 

Wrth ymateb i ymholiad y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â bod tanysgrifiad Stonewall ymysg y dewisiadau ychwanegol i’w hystyried, dywedodd y Prif Weithredwr y dylid cydnabod y byddai angen gwneud dewisiadau anodd a byddai angen adolygu pob agwedd o’r gyllideb.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai angen gwneud asesiad risg ar y rhestr ddewisiadau o 2023/24 i’w hailystyried, a hynny cyn iddi gael ei hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel y cadarnhawyd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol.  Yn dilyn ymholiad yngl?n â phwysau newydd mewn ysgolion, eglurodd y Prif Weithredwr fod hyn yn ofyniad o ganlyniad i ddull gweithredu mwy trylwyr gan Estyn parthed iechyd a diogelwch ar ystad ysgolion.  Yn unol â chais, darparodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion y gweithdai cyllideb a drefnwyd ar gyfer mis Hydref, a anogodd yr Aelodau i fod yn bresennol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurder yngl?n â chasgliadau’r adroddiad, ac ymatebodd y Cynghorydd Paul Johnson drwy siarad am ddull gweithredu’r Cyngor mewn perthynas â’r gyllideb a rôl yr Aelodau wrth wneud penderfyniadau anodd i ymateb i raddfa’r her ar gyfer 2024/25.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at strwythur darbodus y Cyngor, a’i hanes o gael ei ystyried fel Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda yn ariannol.  Fodd bynnag, byddai sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2024/25 angen dull gweithredu gwahanol er mwyn creu rhaglen drawsnewid a fyddai’n datblygu sail gynaliadwy o sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.  Byddai gwasanaethau statudol yn parhau i gael eu darparu’n ddiogel drwy weithio drwy’r safonau hynny, ond byddai angen newidiadau anochel.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes materion penodol i’w hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad ar 19 Medi.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: