Manylion y penderfyniad
Responsible Investment Policy within the Investment Strategy Statement
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Eglurodd y Cadeirydd fod gan y Gronfa nifer o sesiynau hyfforddiant ar y pwnc yma, a bod geiriad arfaethedig y buddsoddiad cyfrifol wedi’i gylchredeg cyn y cyfarfod yn barod at ei gyflwyno i’r Pwyllgor ei gymeradwyo.
Aeth Mr Turner drwy adran Buddsoddiad Cyfrifol y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi gan amlygu meysydd allweddol o newid.
- Y newid mawr cyntaf yw sefydlu fframwaith chwe cham clir i asesu addasrwydd ac effaith bosibl unrhyw waharddiad a ystyrir gan y Pwyllgor, ar dudalen 227 y pecyn.
- Ar dudalen 330 mae newidiadau wedi’u gwneud i eiriad targed 4, sef mynd i’r afael â mandadau cynaliadwy erbyn 2030 o fewn y portffolio ecwiti a restrir. Mae’r targed wedi’i newid o 30% i 100% erbyn 2030, gan adlewyrchu’r ffaith bod y Gronfa wedi newid i is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy PPC. Bydd y targed hwn yn gofyn i PPC/Russell ymchwilio i bosibilrwydd o is-gronfa marchnadoedd newydd cynaliadwy. Os nad yw hyn yn ymarferol, byddai’r Gronfa o bosibl yn ystyried newid y buddsoddiadau hyn i is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy sy’n bodoli’n barod.
Mae adborth ar y geiriad arfaethedig wedi’i dderbyn gan Mr Hibbert a’r Cyng. Swash cyn y cyfarfod.
- O ran y paragraff olaf ar dudalen 330 ac ar dudalen gyntaf tudalen 331, roedd y Cyng. Swash wedi gofyn a yw hyn yn ddigon cryf mewn perthynas â rhoi’r gorau i fuddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil – mae Pennaeth y Gronfa wedi darparu ymateb. Eglurodd Mr Turner fod hyn wedi’i ystyried ond cynigir bod y Gronfa yn cadw’r geiriad presennol sy’n seiliedig ar ddiffiniad yr IIGCC (Institutional Investors Group on Climate Change) o gwmnïau tanwydd ffosil sy’n fwy cynhwysfawr ac sy’n dal cwmnïau drud ar garbon ar draws pob sector, yn cynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu a chludiant.
- Roedd y Cyng. Swash hefyd wedi awgrymu tynnu rhywfaint o’r geiriad yn y polisi gwaharddiadau, ac mae’r newid yma wedi’i wneud.
- Roedd Mr Hibbert wedi awgrymu geiriad ychwanegol o ran gweithredu i waredu cwmnïau yr ystyrir bod yr ymgysylltu yn aneffeithiol. Yn seiliedig ar yr adborth yma mae’r geiriad drafft wedi’i ddiweddaru gan gydnabod y cydbwysedd rhwng dyheadau’r Pwyllgor ac ymarferoldeb gwaredu mewn cysylltiad â’r trafodaethau parhaus mewn perthynas â phroses uwchgyfeirio PPC.
Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn cymeradwyo’r geiriad.
Aeth Mr Turner drwy’r Polisi Eithriadau arfaethedig yn y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi. Dywedodd fod datganiad y Bwrdd Pensiynau Lleol o gymeradwyaeth ar gyfer y broses a’u cefnogaeth ar gyfer dull buddsoddi sy’n alinio a Paris, yn briodol. Cadarnhaodd y byddai newid arfaethedig y Bwrdd i’r polisi eithriadau yn cael ei wneud. Eglurodd mai prif amcan y rhan hon o’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi oedd egluro dyheadau’r Pwyllgor ar gyfer eithrio, a sut mae’r rhain yn cael eu cydbwyso yn erbyn yr heriau gweithredu a’r ymgysylltiad parhaus a fydd ei angen gyda PPC.
Gan gyfeirio at y targedau allweddol yn y portffolio Ecwiti a Restrir ar dudalen 330, holodd y Cyng. Swash a yw’r nod “targedu holl bortffolio Ecwiti a Restrir i gael ei fuddsoddi mewn mandadau cynaliadwy erbyn 2030” yn mynd yn groes i’r targed a geir yn ddiweddarach: “erbyn 2030, bod gan o leiaf 90% o gwmnïau mewn sectorau drud ar garbon strategaethau clir a chredadwy er mwyn cyflawni net-sero neu eu bod yn destun ymgysylltiad i gyflawni’r amcan hwn”. Eglurodd Mr Turner nad yw hyn yn cael ei ystyried fel mynd yn groes hyd yn oed os yw’r holl asedau yn cael eu buddsoddi ar sail ecwiti cynaliadwy mi fydd yna gwmnïau drud ar garbon sydd wedi ymrwymo i lwybr clir tuag at sero net. Mae’r geiriad arfaethedig yn cadw hyblygrwydd i fuddsoddi yn y cwmnïau hynny sy’n newid, yn amodol ar adolygiad rheolaidd.
Cyhoeddodd y Cyng. Swash ei fwriad i gynnig diwygiad i’r strategaeth gan gyfeirio at y ddau darged olaf yn y portffolio ecwiti a rennir (tudalennau 330 a 331): Ar gyfer y targed sy’n dechrau “erbyn 2025” cynigiodd y dylid dileu “70%” a rhoi “90%” yn lle, ac ar gyfer y targed sy’n dechrau “erbyn 2030” cynigiodd newid “o leiaf 90% o gwmnïau” i “pob cwmni” a dileu “neu eu bod yn destun ymgysylltiad i gyflawni’r amcan hwn”. Teimlodd fod hyn yn darparu cam gweithredu clir a mesuradwy.
Dywedodd y Cyng. Swash ei fod ar ddeall bod awdurdodau lleol eraill yn ceisio rhoi’r gorau i fuddsoddiadau o’r fath erbyn 2030, ac roedd yn teimlo, mewn cymhariaeth, bod disgwyl i gwmnïau drud ar garbon gael cynllun sero net yn ofyniad bach iawn. Hefyd, cwestiynodd pa feini prawf y byddai’r Gronfa yn eu defnyddio i wneud penderfyniad ynghylch pa gwmnïau i roi’r gorau i fuddsoddi ynddynt er mwyn cyrraedd y targed 90%, ac roedd yn teimlo bod hyn yn aneglur. Yn olaf, teimlodd fod nodi nifer y cwmnïau yn hytrach na chanran y buddsoddiadau yn ôl gwerth yn cyfaddawdu effeithiolrwydd y strategaeth gan y byddai’n galluogi’r Gronfa i brynu cyfranddaliadau unigol o werth isel mewn cwmnïau sydd â chynlluniau yn eu lle, er mwyn cyrraedd y targed, heb roi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau drud ar garbon. Teimlodd fod ei newidiadau arfaethedig yn egluro bwriad ei gynnig gwreiddiol i ddiwygio’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi, ac y byddai’r Gronfa erbyn 2025 gyda ffon fesur an-rhwymol i fesur y cynnydd, gan gadw’r gofynion erbyn 2030 yn amwys. Teimlodd hefyd bod hyn yn egluro unrhyw ddryswch o ran canrannau.
Roedd Mr Turner yn cydnabod bod sawl elfen gymhleth i ddiwygiadau’r Cyng. Swash ac awgrymodd y dylid darparu ymateb manwl i hyn y tu allan i’r cyfarfod er mwyn ystyried hyn yn briodol ac yn ofalus. Amlygodd nad yw’r polisi wedi’i gyfyngu i gwmnïau sydd yn ymwneud â sectorau tanwydd ffosil yn unig a’i fod yn fwy cynhwysfawr ar draws pob sector o’r economi.
Dywedodd Mr Hibbert y byddai’n anodd derbyn y diwygiad heb weld ymateb manwl a all ddylanwadu ar y canlyniad.
Cynigiodd y Cyng. Swash y dylid diwygio’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi. Gan fynd i’r afael â’r ddau darged diwethaf yn y portffolio ecwiti a rennir ar dudalennau 330 a 331 o’r pecyn, y diwygiad oedd:
- O ran y targed yn dechrau “erbyn 2025”: dileu “70%” a rhoi “90%” yn lle,
- O ran y targed sy’n dechrau “erbyn 2030”: dileu “o leiaf 90% o gwmnïau” a rhoi “pob cwmni” yn lle, a dileu “neu eu bod yn destun ymgysylltiad i gyflawni’r amcan hwn”.
Eiliodd y Cyng. Wedlake y cynnig hwn. Cafwyd pleidlais drwy godi llaw ble’r oedd y rhan fwyaf yn erbyn y diwygiad. Cadarnhaodd Mr Turner y gellir darparu ymateb ysgrifenedig manwl i’r cynnig ar gyfer y Pwyllgor.
Er bod llawer o waith ar ôl i’w wneud, dywedodd y Cyng. Wedlake ei fod yn gwerthfawrogi mewnbwn pob parti a’u cyfraniad at gynnydd y Pwyllgor yn y mater hwn.
Cafwyd pleidlais drwy godi llaw i gytuno ar yr argymhelliad ar gyfer yr eitem hon. Pleidleisiodd y rhan fwyaf o blaid. Pleidleisiodd y Cyng. Swash yn erbyn yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi, yn gwneud sylwadau ac yn cymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol diwygiedig y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi, at ddibenion ymgynghori.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2024
Dyddiad y penderfyniad: 30/08/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/08/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol: