Manylion y penderfyniad

Disabled Adaptations Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the updated Policy for Disabled Facilities Grants (DFG).

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) yr adroddiad oedd yn manylu’r newidiadau i’r polisi oedd yn ofynnol i alinio addasiadau ar gyfer y sector preifat neu gyda rhai tai Cyngor Awdurdod Lleol. 

 

Roedd Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn gosod dyletswydd gorfodol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu grantiau cyfleusterau i’r anabl a oedd ar gael i addasu neu ddarparu cyfleusterau i berson anabl mewn annedd.    Roedd y terfyn statudol ar gyfer Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn £36,000 ar hyn o bryd fesul cais o fewn cyfnod o bum mlynedd. 

 

Roedd yr Uwch Reolwr yn amlinellu’r nifer o addasiadau canolig a mawr ar gyfer y sector preifat ynghyd ag adolygiad o bob blwyddyn i egluro’r cynnydd a’r gostyngiad yn y ffigyrau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

Wrth gyfeirio at yr adroddiad gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester a oedd yna ond un Therapydd Galwedigaethol (ThG) yn gweithio o fewn y Portffolio Tai a Chymunedau.    Eglurodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) bod yna un Therapydd Galwedigaethol o fewn y portffolio ond ei bod yn bosibl ymgysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol o fewn y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol.   Dywedodd nad oedd hyn yn achosi oedi wrth gyflawni’r addasiadau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a oedd y Cyngor yn hawlio costau ar gyfer addasiadau mewn eiddo preifat os oedd y sawl oedd angen yr addasiadau wedi marw.  Hefyd, gofynnodd sawl ThG oedd yn gweithio o fewn y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd yr Uwch Reolwr nad oedd y Cyngor yn hawlio’r costau ond roedd yn codi tâl ar yr eiddo, felly os byddai’r eiddo yn cael ei waredu o fewn cyfnod o 10 mlynedd byddai’r Cyngor yn hawlio costau yn ôl i gyfyngiad ar werthiant yr eiddo.    Dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai’n cadarnhau’r nifer o ThG o fewn y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.   

 

            Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill am y gwelliannau a wnaed i’r gwasanaeth a’r gostyngiad yn y nifer o ddyddiau a gymerwyd ar gyfer addasiadau, fel yr amlinellwyd o fewn yr adroddiad.  Gofynnodd a oedd addasiadau mewn eiddo Awdurdod Lleol yn seiliedig ar brawf modd os oedd tenant yn symud o eiddo gydag addasiad i eiddo tai gwarchod ac a fyddai’r eiddo yn cael ei ddefnyddio gan y tenantiaid gyda’r angen am yr addasiad penodol hwnnw.  Dywedodd yr Uwch Reolwr nad oedd unrhyw adhawlio ariannol gan denantiaid Awdurdod Lleol gan na fyddai yna unrhyw fudd ariannol i’r tenant ar gyfer yr addasiad.    Byddai’r Cyngor hefyd yn ystyried ailddyrannu’r eiddo i rywun oedd â’r un gofyniad addasu.

 

            Hefyd, gofynnodd y Cynghorydd McGuill a oedd gan y gwasanaeth gysylltiadau agos gyda storfa Gogledd Ddwyrain Cymru a leolir ym Mhenarlâg.  Eglurodd yr Uwch Reolwr bod y storfa yn cadw offer mân addasiadau a bod y gwasanaeth addasiadau yn gwneud gwaith addasu canolig a mawr.  Eglurodd fod gwelliannau wedi eu gwneud i adnewyddu ac ailddefnyddio stoc, fel lifft grisiau a dywedodd eu bod yn cael eu profi’n drylwyr cyn cael eu hailddefnyddio i sicrhau eu diogelwch.    

 

Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r polisi Addasiadau i Bobl Anabl a ddiweddarwyd oedd yn cynnwys cartrefi preifat ac eiddo stoc y cyngor.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 13/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: