Manylion y penderfyniad
Housing Strategy Action Plan Performance Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the Housing
Strategy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu’r Cynllun Cyflawni Strategaeth Dai 2019-2024 gyda phwyslais arbennig ar y flwyddyn ariannol 2022/23. Roedd gan y Strategaeth Dai gynllun cyflawni oedd yn gosod 3 blaenoriaeth strategol a gweithgaredd cysylltiol i gyflawni’r blaenoriaethu hynny.
Roedd Archwiliad mewnol wedi’i gynnal yn 2022/23 - Mathau Cywir o Dai yn y Lleoliad Cywir - Tai a Chymunedau. Roedd dyddiadau’r adroddiad terfynol Mawrth 2022/23 wedi’i raddio’n oren/gwyrdd: rheolyddion allweddol yn gweithredu’n effeithiol yn gyffredinol ond gydag argymhellion mewn perthynas â rhai camau mireinio wedi eu gweithredu, gan gynnwys llunio cofrestr risg. Roedd cynlluniau yn cael eu gwerthuso’n rheolaidd i sicrhau ble bo’n bosibl, bod risgiau yn cael eu nodi yn fuan a chamau lliniaru wedi eu cymryd i sicrhau darpariaeth amserol y cynlluniau o fewn y Cynllun Cyflawni.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol bod pwysau costau byw a’r effeithiau ar y Rhyfel yn Wcráin: yn parhau i roi pwysau costau ac argaeledd sylweddol ar lafur a deunyddiau. Roedd yna hefyd berygl parhaus o alw cynyddol ar wasanaethau atal digartrefedd gan fod hysbysiadau terfynu wedi codi.
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’i eilio gan y Cynghorydd Ray Hughes.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau canlynol a amlinellwyd yn yr adroddiad:-
· Y broses Rhaglen Darparu Datblygiad Bwriedig a symud i borthol ar-lein;
· Dileu’r cyfyngiad 20% ar y gyllideb ar gyfer caffaeliadau; ac
· Aliniad safonau a graddfa ymyrraeth ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP)
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2023
Dyddiad y penderfyniad: 13/09/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: