Manylion y penderfyniad

Void Management

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide a detailed update to the Committee on Void properties and the work undertaken to bring the properties back into use.

Penderfyniadau:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.

 

Amlinellodd nifer y tai gwag newydd a'r rhai oedd wedi'u cwblhau a dywedodd fod 33 eiddo wedi'u cwblhau yn barod i'w dyrannu.  Hefyd, amlinellodd y canlynol, fel y cyflwynwyd yn y nodyn briffio:-

 

·         Y nifer o eiddo gwag mawr

·         Cyfanswm y nifer o eiddo gwag cyffredinol oedd wedi gostwng i 234

·         Perfformiad y contractwyr presennol

·         Prif resymau dros derfynu

 

Dywedodd y Cadeirydd am adborth cadarnhaol a ddarparwyd ar gyflwr yr eiddo gwag a ddychwelwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester am yr eiddo galw uchel ac isel a amlinellwyd yn y nodyn briffio a gofynnodd pam bod eiddo heb lawer o alw yn cael eu dychwelyd yn gynt.  Dywedodd am yr eiddo 1 ystafell wely a theimlodd y dylent gael eu dychwelyd yn gynt i gynorthwyo gyda’r pwysau ar y gyllideb digartrefedd ac roedd hefyd yn bryderus na fu unrhyw welliant yn y nifer o dai gwag o fewn ardal Glannau Dyfrdwy o’i gymharu ag ardaloedd eraill ar draws y Sir.  Roedd hefyd yn bryderus am y nifer uchel o eiddo gwag mawr o ystyried y gwaith a wneir fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru a gofynnodd pam bod cymaint o eiddo angen gwelliannau mawr. 

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cyfanswm ffigyrau ble roedd y nifer o eiddo ar hyn o bryd ac nad oeddent yn angenrheidiol yr un eiddo a dywedodd ei fod yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth ar ddadansoddiad o’r ffigyrau i’r Cynghorydd Selvester yn dilyn y cyfarfod.  Mewn perthynas â chyflwr gwael rhai eiddo, dywedodd fod y tîm yn gweithio’n agos gyda’r rheolwyr tai a’u bod yn cynnal 100% o ymweliadau cyn-terfynu i gadarnhau cyflwr yr eiddo.  Yn anffodus, nid oedd y gwaith WHQS wedi cynnwys gwaith plastro oedd yn waith mawr oedd yn ofynnol ar yr eiddo gwag.   

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Selvester yngl?n â faint o eiddo gwag oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis, oedd yn golygu cost Treth y Cyngor i’r Cyngor, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i siarad gyda’r Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael a rhoi ymateb yn dilyn y cyfarfod.   

 

Gofynnodd y Cadeirydd pwy oedd yn penderfynu a oedd eiddo â galw mawr neu alw isel.    Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod eiddo yn cael ei ystyried fel galw mawr ble roedd yna eisoes ddyraniad ar gyfer tenant.  Roedd eiddo yn cael ei ystyried â galw isel os nad oedd yna denant wedi’i ddyrannu a allai fod oherwydd materion mynediad.  Unwaith bod tenant wedi’i ddyrannu neu welliannau wedi eu gwneud o ran hygyrchedd, byddai’r eiddo yn cael ei symud i gael ei ystyried â galw uchel. 

 

Roedd y Cynghorydd David Evans yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Selvester o amgylch y nifer o eiddo fesul ardal dosbarth ac er yn cydnabod yr ymateb a roddwyd gan y Rheolwr Gwasanaeth, roedd yn teimlo dros y chwe mis diwethaf y byddai’r Pwyllgor yn gweld gostyngiad yn y nifer o eiddo gwag yn ardal dosbarth Glannau Dyfrdwy, ond nid dyma’r achos.  Roedd yn awgrymu darparu gwybodaeth ychwanegol ar y nifer o eiddo gwag newydd o fewn ardal dosbarth a’r nifer a ddychwelwyd er mwyn sicrhau Aelodau nad oedd un ardal yn cael blaenoriaeth dros un arall.  Roedd yn mynegi pryder am faint o amser yr oedd yn ei gymryd i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.  Roedd yn cydnabod bod y nifer cyffredinol o eiddo gwag wedi gostwng ond roedd yn bryderus ar y raddfa bresennol y byddai’n cymryd pedair blynedd i leihau’r nifer o eiddo yn llwyr.  

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn cyfeirio’r Pwyllgor at y ffigwr cyfanswm eiddo gwag a ddangoswyd yn y nodyn briffio oedd yn dangos bod y cyfanswm cyffredinol yn gostwng.  Eglurodd ei bod yn bosibl bod rhai eiddo o fewn pob ardal angen mwy o waith cymhleth i ddod â’r eiddo yn ôl i ddefnydd ac y byddai’n cymryd cryn amser i’r contractwyr ddal i fyny.  Roedd yn gweithio’n agos gyda chontractwyr ac roedd yr adborth ar ansawdd a safon y gwaith wedi bod yn gadarnhaol.    

 

            Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Evans a’r Cynghorydd Linda Thew am y pwysau a roddir ar denantiaid i adael eiddo yn gyflym yn dilyn profedigaeth a’r lefel o rent i gael ei dalu, dywedodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) bod teulu yn derbyn rhybudd o bythefnos i wagu eiddo ac y byddai rhent llawn yn parhau’n ddyledus nes byddai’r eiddo wedi’i wagu’n llwyr a’i ddychwelyd i’r Cyngor.  Dywedodd y byddai’n hoffi meddwl nad oedd pwysau yn cael ei roi ar deuluoedd ond roedd yn deall bod rhai teuluoedd eisiau gwagu eiddo cyn gynted â phosibl oherwydd y taliadau rhent.  

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Pam Banks a oedd prentisiaid yn cael eu cyflogi o fewn y gwasanaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith ar eiddo gwag.  Hefyd, diolchodd i’r Rheolwr Gwasanaeth am ei gymorth o fewn ei ward.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod yna nifer o brentisiaid o fewn y DLO oedd yn ymgymryd â gwaith mewn eiddo gwag llai. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge o amgylch cyllid Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) gan Lywodraeth Cymru, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cyllid TACP a ddyrannwyd i’r Cyngor y llynedd yn caniatáu i’r Cyngor dargedu eiddo na fyddai yn angenrheidiol yn cael ei ail-fuddsoddi.  Roedd y cyllid TACP hefyd yn canolbwyntio ar gaffael eiddo na fyddai’n angenrheidiol wedi’i fuddsoddi i gynorthwyo gyda materion llety.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Thew pa un a ddylid canolbwyntio ar ddod ag eiddo gwag gydag ychydig o waith arno yn ôl i ddefnydd i ddod â’r ffigwr cyffredinol i lawr yn gynt a chynorthwyo i ddyrannu eiddo.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod eiddo gwag bach yn cael eu targedu.  Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud gyda’r tîm dyraniadau i gadarnhau pa eiddo oedd angen ei ddychwelyd yn sydyn iawn. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Geoff Collett am y ffigyrau a gyflwynwyd yn y nodyn briffio, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod 20 eiddo gwag wedi eu derbyn a 33 eiddo wedi eu cwblhau yn barod ar gyfer dyrannu.  Y rheswm pam nad oedd hyn wedi’i adlewyrchu yn y ffigwr cyfanswm eiddo gwag oedd nad oedd pob un ohonynt wedi eu gosod eto.    

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Rush am yr eiddo i’w cadarnhau fel y dangosir yn y nodyn briffio a gofynnodd a oeddent yn aros i gael eu harchwilio a pha un a oedd y Cyngor yn brin o arolygwyr.  Hefyd, gofynnodd a oedd y Cyngor yn fodlon gyda chynhyrchiant ac ansawdd y gwaith gan y DLO a Chontractwyr.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yna ostyngiad mewn perfformiad yn y nifer o eiddo a ddyrannwyd fel eiddo gwag mawr neu bach ond eglurodd bod y ffocws wedi bod ar drefnu gwaith.  Dylai’r Pwyllgor weld gwelliant yn y ffigwr dyraniad hwn gyda’r nifer cywir o arolygwyr nawr mewn swydd.  Hefyd, dywedodd ei fod yn fodlon gyda chynhyrchiant y DLO a bod ansawdd a safon y gwaith gan y Contractwyr wedi bod yn ardderchog.   

 

Yn dilyn cais am wybodaeth ychwanegol ar y meysydd canlynol i’w cynnwys mewn adroddiadau Rheoli Eiddo Gwag yn y dyfodol, cytunwyd i ystyried y wybodaeth mewn adroddiadau yn y dyfodol i’w gynnal yn ystod y cyfarfod gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd o amgylch RhGD:-

 

·         Manylion sawl eiddo a ddychwelwyd ym mhob ardal;

·         Dadansoddiad o drosglwyddiadau gan y Tîm Dyraniad i ddangos ar gyfer beth oedd y trosglwyddiadau ac i ble trosglwyddwyd; 

·         Gwybodaeth ar sut mae eiddo yn cael ei ystyried fel galw isel a galw uchel; ac 

·         Eiddo â galw isel, fesul ward. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 13/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: