Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Social & Health Care Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol ac Olrhain Camau Gweithredu fel y nodwyd yn yr adroddiad a dywedodd wrth Aelodau bod y cwestiynau yr oeddent wedi’u hawgrymu wedi cael eu hanfon ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) er mwyn eu hystyried cyn y cyfarfod ym mis Ionawr.  Gwahoddodd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau eraill i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bateman y dylai rheolwr hefyd fod yn bresennol yn y cyfarfod ym mis Ionawr i egluro ac o bosib i ddangos ‘E-Ymgynghoriad’. Ychwanegodd nad oedd ymgynghoriadau dros yn ffôn yn addas i bawb a dywedodd y gellid sylwi ar bethau eraill wyneb yn wyneb yn hytrach na dros y ffôn.  Cytunodd y Cynghorydd Maddison gyda hyn gan ychwanegu bod llawer iawn o bobl h?n heb fynediad at gyfrifiaduron / y rhyngrwyd / ffonau symudol.  Roedd yn ystyried bod E-Ymgynghoriad yn gwahaniaethu ar sail oedran ac roedd eisiau i BIPBC roi sicrwydd i Aelodau y gallai pobl h?n, nad oedd ar-lein, gael ymgynghoriad wyneb yn wyneb.  Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod ‘E-Ymgynghoriad’ ar y rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i BIPBC yng nghyfarfod mis Ionawr ac y byddai’n anfon y sylwadau ychwanegol at BIPBC, fodd bynnag ni allai orchymyn bod un yn mynychu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill i gael cynnwys y cynnydd a oedd wedi cael ei wneud yn sefydliadau preswyl y Cyngor pan yr oedd y Lleoliadau Tu Allan i’r Sir yn cael eu hadolygu.  Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a dywedodd y byddent yn gwneud hynny pan oedd yr eitem yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ar y cyd ym mis Mehefin 2024.

 

Mynegodd y Cynghorydd Ellis bryderon nad oedd pobl yn wardiau ochr yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn cael bwyd a diod, weithiau am ddyddiau, ac roedd eisiau codi’r mater gyda BIPBC yn y cyfarfod ym mis Ionawr a dywedodd y Cadeirydd y byddai hyn yn cael ei nodi.

 

            Cyfeiriodd yr Hwylusydd at Olrhain Camau Gweithredu a dywedodd fod rhai o’r eitemau yn dal i fynd rhagddynt ac y byddai’n ymateb i Aelodau pan yr oedd ganddi fwy o wybodaeth.  Cadarnhaodd bod Lleoliadau Tu Allan i’r Sir wedi cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ystyried hyn yn y cyfarfod ar y cyd ar 27 Mehefin ac y byddai’r sylw blaenorol a wnaed gan y Cynghorydd McGuill yn cael ei drafod.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Debbie Owen.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2024

Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: