Manylion y penderfyniad

Social Care Commissioning

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To receive an update on Audit Wales Report into OP Care Home Commissioning in North Wales.

Oversight by Member of the Dom Care Framework refresh for North Wales.

Penderfyniadau:

Dywedodd yr Uwch-Reolwr - Diogelu a Chomisiynu bod yr adroddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i adrodd ar weithgarwch Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru a’r fframwaith a oedd wrthi’n cael ei ddatblygu, gan nodi bod comisiynu yn rhan fawr o’r gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Comisiynu wybodaeth gefndir i’r adroddiad cyn manylu ar y Cytundeb Gofal Cartref gan nodi bod Comisiynu yn weithgaredd cylchol i asesu anghenion ei boblogaeth leol o ran gwasanaethau gofal a chefnogaeth.  Eglurodd bod Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru yn brosiect rhwng y chwe awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a oedd wedi bod yn weithredol ers 2018 ac y byddai’n dod i ben ar 31 Mawrth 2025 a bod gwaith wedi dechrau i gwblhau’r cylch. Roedd y cytundeb yn rhestr o ddarparwyr a oedd wedi dangos eu gallu a’u cymhwysedd i ddarparu gofal cartref a oedd yn caniatáu iddynt brynu lleoliadau. Roedd y Cytundeb presennol yn cynnwys Gwasanaethau Gofal Cartref ar gyfer oedolion yn unig ond oherwydd ei lwyddiant, byddai’r broses ail-dendro yn cael ei hymestyn i gynnwys Gwasanaethau Gofal Cartref i Blant / Pobl Ifanc / Oedolion a’u Teuluoedd / Gofalwyr a Phobl H?n.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd McGuill, cadarnhaodd y Rheolwr Comisiynu bod 13 o Gartrefi Preswyl i Blant a Phobl Ifanc wedi’u cofrestru a oedd yn cynnwys cartrefi mewnol newydd.  O ran nifer presennol y Lleoliadau Tu Allan i’r Sir ar gyfer plant, dywedodd yr Uwch-Reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod oddeutu 40 o blant mewn gofal preswyl fel arfer a byddai rhai ohonynt wedi’u lleoli yn yr 13 o gartrefi yn Sir y Fflint, ond rhoddodd sicrwydd bod yr holl blant mewn cartrefi cofrestredig ac y byddai’r data tu allan i’r sir yn cael ei ddarparu.

 

          Cwestiynodd y Cynghorydd Owen y gwahaniaeth rhwng lleoedd wedi’u cofrestru a lleoedd heb eu cofrestru. Dywedodd y Rheolwr Comisiynu mai’r gwahaniaeth oedd bod lleoedd cofrestredig yn cael eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol - Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhoddodd enghraifft o Ofalwyr Micro heb eu cofrestru gan ddweud, er eu bod yn darparu gwasanaeth rheoledig, nid oedd yn ofynnol iddynt fod wedi cofrestru cyn belled â’u bod ond yn darparu gwasanaeth i bedwar unigolyn neu lai.

 

Holodd y Cynghorydd Mackie gwestiwn yngl?n â gofyniad Llywodraeth Cymru a oedd yn nodi nad oedd darparwyr gwasanaeth yn cael gwneud elw a gofynnodd a oedd hyn yn cael unrhyw effaith ar Sir y Fflint ac os oedd unrhyw bryderon mewn perthynas â hyn. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Comisiynu fod hyn yn cael effaith ac, hyd yma, roedd y ffocws wedi bod ar Wasanaethau Plant ond roedd dyheadau i ymestyn hynny. Eglurodd bod rhai darparwyr yn dewis camu’n ôl o wasanaethau yng Nghymru o ganlyniad i’r fenter a oedd yn cynnwys gwasanaeth a oedd eisoes wedi cau yn Sir y Fflint, ond roedd darparwyr eraill yn ystyried hyn yn gadarnhaol ac yn trawsnewid eu model busnes i sefydliad nid er elw.   Ychwanegodd nad oedd yn ystyried hyn yn rhywbeth negyddol oherwydd bod ganddynt gynllun mewn lle, gan roi enghraifft o ddatblygu gwasanaethau mewnol i liniaru rhai a oedd yn gadael y farchnad.  Roedd yn pryderu oherwydd, yn genedlaethol, roedd ofn y byddai menter Llywodraeth Cymru yn cael effaith negyddol ar y sector a oedd eisoes mewn argyfwng.

 

Ychwanegodd yr Uwch-Reolwr - Diogelu a Chomisiynu y byddai’r newidiadau yn dod i rym yn 2027 a bod trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda’u darparwyr gofal a gyda chefnogaeth yr Aelodau, roedd y Cyngor wedi bod yn rhagweithiol iawn o ran darparu gwasanaethau preswyl mewnol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Debbie Owen.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod yr Aelodau’n nodi gwaith y tîm contractau a chomisiynu a nifer y gwasanaethau maent yn eu cefnogi a’u datblygu yn Sir y Fflint a thu allan i’r sir; a 

(b)     Bod yr Aelodau’n nodi’r gwaith cynllunio sy’n cael ei wneud ar gyfer y cytundeb fframwaith gofal cartref rhanbarthol newydd sydd ei angen i ddisodli’r fframwaith cyfredol a fydd yn weithredol hyd at 31 Mawrth 2025.

 

ER GWYBODAETH

 

Rhannwyd fideo yn dangos yr arferion arloesol a rhagoriaeth ar draws Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint gyda’r Pwyllgor.

Awdur yr adroddiad: Jane Davies

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2024

Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau Atodol: