Manylion y penderfyniad
Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To inform the Committee of progress against actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol a dywedodd bod y rhai ynghlwm â hyfforddiant ar wytnwch seiber ac ymholiadau cyllid hefyd wedi’u cwblhau.
Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r swyddogion am yr ateb i’w ymholiad ar y newid defnydd dros dro ar gyfer cronfa wrth gefn Diwygio’r Gyfundrefn Les a gofynnodd am eglurhad ynghylch a oedd y Cyngor yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth Help i Hawlio a’i ffynhonnell gyllid. Cytunodd y swyddogion Cyllid i gyfeirio’r ymholiad yn ôl at y gwasanaeth i gael ateb.
Yn dilyn ymholiad y Cynghorydd Carol Ellis yng nghyfarfod mis Tachwedd ar amrywiannau yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol, cytunodd y swyddogion i anfon yr ateb ymlaen, a oedd wedi’i rannu gyda’r Pwyllgor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Sam Swash at y wybodaeth a rannwyd ar ddyraniad y Cynllun Datblygu Lleol a cheisiodd gadarnhad bod hwn yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol fel arbediad gyda’r eitemau ychwanegol yn cael eu cofnodi fel pwysau cyllidebol yn ystod y flwyddyn, fel y cytunwyd yn y cyfarfod. Cyfeiriodd hefyd at y rhestr o wasanaethau arbenigol oedd yn cael eu hariannu’n flaenorol gan y dyraniad hwnnw cyn 2016 a holodd sut roedd y gwasanaethau wedi’u hariannu ers hynny. Cytunodd y swyddogion i gyfeirio hyn at y Prif Swyddog i roi ateb.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.
Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2024
Dyddiad y penderfyniad: 14/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Accompanying Documents: