Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 5)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 5) Report and Significant Variances.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa mis 5 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £3.660 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn), a oedd yn adlewyrchu gorwariant cyffredinol o £6.387 miliwn yn ystod y flwyddyn ar hyn o bryd.  Nodwyd balans cronfeydd wrth gefn at raid o £3.027 miliwn ar gyfer diwedd y flwyddyn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog).  Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli risgiau a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, yr oedd moratoriwm yn cael ei gyflwyno drwy adolygu a herio gwariant nad yw’n hanfodol ynghyd â pharhad o’r broses o reoli swyddi gweigion.  Crynhowyd y sefyllfa a ragwelid ar draws portffolios, gan gynnwys manylion amrywiadau arwyddocaol.

 

Yr oedd trosolwg o’r risgiau yn cynnwys amcangyfrif o effaith dyfarniadau cyflog, y sefyllfa ddiweddaraf parthed y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, a’r galw uchel parhaus am wasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir.  Yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol, amcangyfrifwyd y byddai 99% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.  Yr oedd diweddariad ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn disgwyl y byddai’r ymrwymiadau sy’n weddill ar gyfer Cronfa wrth Gefn Caledi yn gadael balans rhwng £3 miliwn a £3.2 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.  Yr oedd adolygiad manwl o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi nodi £0.648 miliwn i’w ryddhau i’r Gronfa wrth Gefn at Raid, gyda’r dadansoddiad cyffredinol yn dangos balans amcangyfrifedig o £14.758 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Parthed y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.006 miliwn yn uwch na’r gyllideb, a rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol yn £3.191 miliwn.  Yr oedd hyn yn cymryd i ystyriaeth gyfran y gost am gontract adnewyddu’r fflyd.

 

Wrth ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, dywedodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod swyddogion ar hyn o bryd – yn ogystal ag adolygu gwariant nad yw’n hanfodol yn barhaus – yn gweithio ar egwyddorion y moratoriwm, a fyddai’n berthnasol ar draws portffolios i gynyddu cronfeydd wrth gefn a lliniaru’r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2023/24.  Rhoddwyd eglurhad hefyd am y gost ychwanegol ar gyfer ymestyn contract y fflyd, a adroddwyd i’r Cabinet ac a oedd yn cael ei gadw mewn cronfa ganolog gan y Gwasanaethau Stryd.  Dywedodd y Cadeirydd y dylai pob portffolio gymryd cyfrifoldeb dros ei fflyd ei hun.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryderon yngl?n â’r symudiad sylweddol yn y gyllideb ar y cam hwn, a dywedodd fod angen dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn er mwyn canfod yr achosion sylfaenol, yn arbennig yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cydnabuwyd y rhwystredigaethau gan Reolwr Cyllid Corfforaethol, a siaradodd am heriau a ragwelid o ganlyniad i alw anwadal mewn rhai gwasanaethau.

 

Parthed cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, ymholodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â’r dyraniadau ar gyfer gweithwyr dan hyfforddiant Sir y Fflint a Ffermydd Solar.  Parthed Newid Sefydliadol / Modelau Cyflawni Amgen, gofynnodd a fyddai’r cynnydd a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn yn arwain at unrhyw ryddhad i gronfeydd wrth gefn cyffredinol, a gofynnodd am eglurder yngl?n â’r gostyngiad disgwyliedig mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer Cynllun Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.

 

Yn ogystal, yngl?n â chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, cyfeiriodd y Cadeirydd at rai balansau nad oedd yn newid o flwyddyn i flwyddyn, a holodd pam eu bod yn dal i fod ar y rhestr pan nad oedd unrhyw ddisbyddiad.

 

Rhoddodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad yngl?n â’r swm ar gyfer gweithwyr dan hyfforddiant Sir y Fflint, a byddai’n gofyn am ymateb llawnach gan Reolwr Corfforaethol Pobl a Datblygu Sefydliadol, yn ogystal â rhannu ymatebion i ymholiadau eraill.  Byddai ymateb i gais blaenorol yngl?n â swm y refeniw ychwanegol a grëir o bremiymau Treth y Cyngor yn cael ei rannu ar ôl y cyfarfod.

 

Parthed ymholiad gan y Cynghorydd Glyn Banks yn ymwneud ag ymestyn contract y fflyd, cydnabu Rheolwr Cyllid Corfforaethol er bod y pwysau tymor hirach wedi ei gynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2024/25, nid oedd effaith rhan o’r flwyddyn ar gyfer 2023/24 wedi ei adlewyrchu, a byddai hynny’n cael ei ystyried ar gyfer dysgu yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi achosi’r pwysau digartrefedd.  Gofynnodd am i’r Gronfa Galedi newid yn ôl i’w enw blaenorol, sef Cronfa Argyfwng Covid, ar gyfer dibenion adrodd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, rhoddodd swyddogion eglurhad yngl?n â’r trosglwyddiad ariannol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis 4, a chadarnhau bod sylwadau’n parhau yngl?n â chadw’r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy.  Rhoddwyd eglurhad hefyd am y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff a nodwyd fel risg, ac nid oedd wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb ar y cam hwn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Gina Maddison.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 5), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham

Dyddiad cyhoeddi: 08/01/2024

Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: