Manylion y penderfyniad

Corporate Self-assessment 2022/23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with the final report, detailing a summary of the findings following Stage 2 completion including a summary of feedback following consultation and stakeholder engagement.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad ar Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23, a oedd yn crynhoi adborth o ymgynghori ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid ar ganfyddiadau dadansoddiad yn ôl yr wyth thema.  Roedd nifer o welliannau wedi'u gwneud i'r broses ers y cynllun peilot a gynhaliwyd ar gyfer 2021/22.  Roedd meysydd gwella a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd.

 

Croesawodd Sally Ellis y gwelliannau a oedd yn adlewyrchu adborth o'r ymgynghoriad.  Mewn ymateb i gwestiynau, esboniwyd y byddai model asesu cymheiriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn llywio adolygiadau gan gymheiriaid yn y dyfodol a bod cyfleoedd meincnodi’n cael eu harchwilio drwy aelodaeth y Cyngor â’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).

 

Mewn ymateb i sylwadau gan Brian Harvey ar welliannau pellach i'r broses flwyddyn ar ôl blwyddyn, rhoddwyd eglurhad am waith y tîm Perfformiad wrth alinio â Datganiad Blynyddol y Llywodraeth a'r fframwaith perfformiad cyffredinol.  Roedd hon yn un o nifer o ddogfennau corfforaethol a heriwyd yn drwyadl drwy'r broses bwyllgorau i ysgogi gwelliant mewn perfformiad.

 

Croesawodd y Cadeirydd y newidiadau a oedd yn gwneud yr adroddiad yn haws ei ddarllen.  Mewn ymateb i gwestiynau ar gyfleoedd i wella, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai gweithredu model cyflog newydd cadarn yn helpu i fynd i'r afael â materion recriwtio a brofir yn y farchnad heriol bresennol.  Ar gam gweithredu arall, byddai cynlluniau i ddatblygu dull gweithredu seiliedig ar werthoedd diwylliannol ar draws y sefydliad yn cael eu cefnogi gan raglen hyfforddi ac ymgysylltu â’r gweithlu.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Brian Harvey a'r Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu cymeradwyo.

Awdur yr adroddiad: Emma Heath

Dyddiad cyhoeddi: 11/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Accompanying Documents: