Manylion y penderfyniad

Corporate Self-Assessment 2022/23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with the final report, detailing a summary of the findings following Stage 2 completion including a summary of feedback following consultation and stakeholder engagement.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gynnydd Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23, a oedd yn crynhoi adborth o ymgynghoriad ac ymgysylltiad â budd-ddeiliaid ar ganfyddiadau dadansoddiad yn ôl yr wyth thema.  Diolchodd i Aelodau’r Pwyllgor am eu rhan yn y broses ddrafftio.

 

Amlinellodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg welliannau a wnaed i fodel yr hunanasesiad yn dilyn y cynllun peilot a gynhaliwyd ar gyfer 2021/22, a’r ystod o ymgyngoreion drwy gydol y broses dri cham.  Yr oedd yr adroddiad terfynol yn dangos bod y Cyngor, ar y cyfan, wedi perfformio’n dda yn ôl yr asesiad, ac mae camau gweithredu’n cael eu cymryd ar hyn o bryd parthed y meysydd a nodwyd ar gyfer eu gwella.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar gynnydd meysydd i’w gwella a nodwyd o gynllun peilot 2021/22.  Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn ei gymeradwyo’n derfynol gan y Cabinet.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd y gweithdy ym mis Mehefin wedi bod yn agored i’r holl Aelodau, gan fod presenoldeb wedi bod yn isel.  Eglurwyd bod cynrychiolwyr o’r Pwyllgor hwn, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet wedi eu gwahodd.  Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd Diwylliant, Gwytnwch, Gwerthoedd a Moeseg – y cyfeiriwyd atynt yn ystod y gweithdy – a holodd a oedd y rhain wedi eu hadlewyrchu’n glir yn y ddogfen.

 

Yngl?n â thema ‘Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r Gymuned’, galwodd y Cynghorydd Bernie Attridge am fwy o ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd ac Aelodau Etholedig, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.  Dywedodd y dylai perchnogaeth gorfforaethol gael ei harwain gan uwch swyddogion, a bod darpariaeth cefnogaeth ar gyfer cwsmeriaid – er enghraifft, mewn swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu – angen ei hadolygu ar fyrder.

 

Wrth ymateb i sylwadau’r Cadeirydd, tynnodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sylw at y meysydd a nodwyd i’w gwella lle’r oedd themâu’n ymwneud â diwylliant, gwerthoedd a moeseg yn nodi camau gweithredu i’w gwreiddio ledled y sefydliad a’u mesur yn briodol.  Rhannwyd enghreifftiau o adroddiadau a pholisïau a oedd yn adlewyrchu gwytnwch cynyddol o fewn y Cyngor, a chynlluniau i ddatblygu diwylliant perfformiad drwy’r fframwaith.

 

Wrth gydnabod pwysigrwydd gwreiddio’r materion hynny ledled y sefydliad a’r strwythur, siaradodd y Prif Weithredwr am y gwaith a oedd yn mynd rhagddo i wella perchnogaeth gorfforaethol o ddarpariaeth gwasanaeth.  Rhoddodd eglurhad am yr academi ar gyfer uwch arweinwyr, y cyfeiriwyd ati yn y ddogfen, a oedd yn un ffordd o roi dull gweithredu mwy unedig ar waith wrth ddarparu gwasanaeth ledled y Cyngor.  Aeth yn ei flaen i ddweud yr arweinir diwylliant y Cyngor o’r top a dylanwedir arno gan ymddygiad swyddogion ac Aelodau, gyda’r nod o gael dull gweithredu cyson ar y cyd er mwyn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Bill Crease y pwysigrwydd bod rheoli perfformiad yn cael ei lywio gan ymholi data er mwyn ceisio canolbwyntio ar feysydd lle mae tanberfformio; er enghraifft, y data diweddar a rannwyd am amseroedd ateb y ffôn yn y Ganolfan Gyswllt.  Yn ystod y drafodaeth, atgoffwyd yr Aelodau gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) am y materion parhaus yr adroddwyd amdanynt yn rheolaidd a’r camau gweithredu corfforaethol a oedd yn cael eu cymryd i wella trosiant staff ledled y Cyngor.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Linda Thew y disgwyliadau a’r galwadau a oedd ar y Ganolfan Gyswllt, ac fe’i sicrhawyd bod dewisiadau’n cael eu harchwilio er mwyn cynyddu gwytnwch.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Gina Maddison sylwadau am y cysylltiadau posibl rhwng Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a llyfrgelloedd, a dywedodd y Prif Weithredwr fod hyn yn un o’r posibiliadau dan ystyriaeth.

 

Cydnabuwyd y problemau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Crease, a siaradasant am bwysigrwydd sicrhau cwsmeriaid yngl?n ag ymateb a chymryd camau gweithredu.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu cymeradwyo.

Awdur yr adroddiad: Emma Heath

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: