Manylion y penderfyniad

Public Services Ombudsman for Wales’ “My Findings” Publication

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad yn cynnwys y cyfnod hyd at 10 Awst, a byddai canfyddiadau y cyhoeddwyd ers hynny’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad nesaf. Erbyn hyn, mae gan yr Ombwdsmon gronfa ddata o benderfyniadau y gellir ei phori ar ei wefan yn hytrach na chyhoeddi adroddiad cyson. Roedd y wefan yn ddefnyddiol at ddibenion gwaith ymchwil, ond roedd yn llai darllenadwy wrth baratoi’r achosion ar gyfer Aelodau. Roedd y Swyddog Monitro wedi echdynnu ac atodi’r holl faterion yn ymwneud â’r Cod, gydag wyth achos wedi’u hatodi gyda chrynodeb o ganfyddiadau. Roedd ystod eang o achosion, ac yn sensitif i, neu’n cael eu llywio gan ffeithiau bob achos. Nid oedd modd dod o hyd i themâu. Serch hynny, cynghorodd y Swyddog Monitro, er gwaethaf absenoldeb themâu'r achosion, efallai y byddai’n bosibl i’r Pwyllgor nodi negeseuon a deimlwyd oedd yn bwysig i’r Cynghorwyr.

 

            Cyfeiriodd David Davies at dudalen 33 yr achos yng Nghyngor Tref Llanymddyfri, ac roedd eisiau gwybod sut y daethant i benderfyniad am hyd gwaharddiad. Gofynnodd a oedd yr Ombwdsmon wedi darparu canllawiau ar hyd, neu a oedd hyn yn benderfyniad i’r Pwyllgor Safonau. Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Monitro nad oedd tariff na chanllawiau am ddedfrydu, yn wahanol i’r system cyfiawnder troseddol. Roedd cryn dipyn o ddisgresiwn yn perthyn i’r Pwyllgor Safonau, a byddai’n anodd canfod cynseiliau ar gyfer achosion. Roedd yr achosion yn amrywiol ac yn wahanol iawn i’w gilydd, ac nid oedd corff na sefydliad i geisio cyflawni mesuriad o gytgord neu undod o ran y dull o weithio ar draws Pwyllgorau Safonau. Nid oedd ffordd o gymedroli’r penderfyniadau a wnaethant.

 

            Roedd y Cadeirydd yn deall nad oedd thema glir yn perthyn i’r achosion hyn, ond gofynnodd a oedd unrhyw beth a allai’r Swyddog Monitro ystyried fel pwnc da ar gyfer hyfforddiant, neu newidiadau wrth adolygu protocolau. Mewn ymateb, nid oedd y Swyddog Monitro’n sicr, gan ddweud fod yr achos hirach yn trafod perthynas rhwng swyddog ac aelod a drafodwyd yn y 5 mlynedd diwethaf gyda rheolau clir yn gymwys. Roedd nifer o achosion yn trafod cyn aelodau, a dyna’r rheswm pam roedd cyfyngiad mewn perthynas â lefel y gosb a roddwyd. Roedd yn teimlo fod achosion yn eithaf cyffredin; nid oeddent yn anarferol neu’n syndod, ac yn ystyried y byddai aelod a oedd wedi cael ei gosbi’n deall pam nad oedd hyn yn dderbyniol dan y Cod.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Mark Morgan ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn adolygu’r achosion a oedd wedi’u crynhoi yn atodiad yr

adroddiad, a nodi unrhyw broblemau neu themâu a oedd angen eu codi

gyda phob cynghorydd.

 

 

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 22/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2023 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: