Manylion y penderfyniad

Agenda items for the next Ethical Liaison Meeting

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad, a oedd yn ceisio awgrymiadau ar gyfer eitemau ar y rhaglen i’w trafod yn y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf, rhwng y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd ac Uwch Gynghorwyr. Cyfeiriodd y Cadeirydd ar y canllawiau statudol ac anstatudol ar gyfer prif Gynghorau Cymru, a oedd wedi cael ei diwygio’n ddiweddar gan y Gweinidog Cyllid a’r Llywodraeth Leol. Amlygwyd yr adrannau sy’n berthnasol i’r Pwyllgorau Safonau, a’r canllawiau sy’n berthnasol i Arweinwyr Gr?p a dyletswyddau’r Pwyllgor Safonau yn benodol. Cyfeiriodd pwynt 6.4 at gyfarfod y Pwyllgor Safonau gyda’r Arweinwyr Gr?p ar ddechrau bob blwyddyn y Cyngor i gytuno ar nifer o faterion, a chadarnhau amlder y cyfarfodydd gydag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol drwy gydol y flwyddyn. Amlinellodd y Cadeirydd y dyletswyddau sy’n cael eu nodi yn y canllawiau, a dywedodd, er bod y Pwyllgor wedi cwrdd ag arweinwyr y grwpiau unigol wrth edrych ar eu hadroddiadau blynyddol, nid oedd hyn yn cael ei wneud ar ddechrau bob blwyddyn y cyngor, a bod angen cofio hyn.

 

            Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad, ac awgrymodd y dylid trafod y canlynol yn y cyfarfod:

1.    Adborth ar broses yr adroddiad blynyddol cyntaf

2.    Cais am hyfforddiant gan un o’r arweinwyr gr?p ar gyfathrebu parchus ar y cyfryngau cymdeithasol, ond roedd y Swyddog Monitro’n teimlo y dylai fod yn ehangach i gynnwys bob gohebiaeth. Bod angen cwmpasu rhyddid mynegiant gwleidyddol, a oedd yn tanategu beth oedd yn dderbyniol dan y Cod, a dealltwriaeth fanylach o rolau’r Cynghorwyr a’r Swyddogion. Mae CLlLC yn cynnig hyfforddiant, ac efallai y byddai’r Cyngor yn dymuno efelychu gwaith a oedd yn cael ei wneud gan awdurdod cyfagos.

3.    Yna, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at brawf dau gam yr Ombwdsmon ar gyfer camau gweithredu gorfodi, a oedd yn cyd-fynd â’r trafodaethau ynghylch beth oedd neu nad oedd yn achos o dorri’r Cod. Weithiau, efallai byddai’r Ombwdsmon yn penderfynu bod achos o dorri’r Cod, ond nad oedd angen camau gweithredu er budd y cyhoedd. Ni ddylai canfyddiad i’r fath gael ei ystyried fel cadarnhad o’r ymddygiad sy’n destun i’r cwyn.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad pan roedd cyfarfod ar y cyd gydag Arweinwyr Gr?p yn debygol o gael ei gynnal. Yr arfer ar hyn o bryd oedd y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu ym mis Mawrth / Ebrill i ystyried blwyddyn flaenorol y Cyngor er mwyn paratoi ar gyfer adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn honno. Gofynnodd y Cadeirydd am gadarnhad y dylai’r pwyllgor cyfan gwrdd ag Arweinwyr Gr?p cyn dechrau blwyddyn y Cyngor. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod hynny’n gywir.

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan Jacqueline Guest a'r Cynghorydd Antony Wren.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Cymeradwyo’r rhaglen ddrafft ar gyfer y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf.

(b)      Y dylid cael cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen derfynol gan y Prif Swyddog Llywodraethu mewn ymgynghoriad ag aelodau’r cyfarfod.

 

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 22/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/09/2023 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: