Manylion y penderfyniad

Cyber Resilience

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To share with the Committee Audit Wales’ national report on Cyber Resilience.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ystyried goblygiadau adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar seibrgadernid a oedd wedi ei rannu gyda’r holl awdurdodau lleol i grynhoi’r hyn a ddysgwyd o ymosodiadau seibr diweddar a chanlyniadau’r gwaith dilynol ledled Cymru.  Ystyriwyd yr adroddiad, nad oedd yn cynnwys unrhyw argymhellion penodol ar gyfer Sir y Fflint, gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor hwn er mwyn goruchwylio’r risgiau.

 

Amlygodd y Prif Swyddog a Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG y prif ystyriaethau ac ymatebodd i gwestiynau ar waith ar y cyd a pholisïau amrywiol yn cefnogi seibrgadernid.

 

Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, cytunodd y swyddogion i ymgysylltu ag Archwilio Cymru parthed dichonoldeb datblygu strategaeth seibrgadernid drosfwaol ar gyfer y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r risg o ymosodiadau seibr yn erbyn y Cyngor, ac yn cefnogi’r camau a gymerwyd i sicrhau bod systemau cyfrifiadurol y Cyngor a’r data maent yn ei ddal yn aros yn ddiogel a chadarn.

 

(b)          Bod e-bost yn cael ei anfon i’r holl Aelodau yn eu cynghori i gwblhau’r cwrs ‘Cyber Ninja’ erbyn diwedd y flwyddyn er mwyn ceisio lleihau’r risg o dramgwyddau seibr; a

 

(c)          Bod swyddogion yn ystyried ffurfio Strategaeth Seibrgadernid.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 08/01/2024

Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

  • Restricted enclosure  
  • Restricted enclosure  
  • Restricted enclosure  
  • Restricted enclosure  
  •