Manylion y penderfyniad

Housing Rent Income

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the latest operational update on the 2022-23 outturn collection of housing rent.

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) amlinelliad o’r adroddiad briffio a gyhoeddir bob chwarter ar Renti Tai.  Esboniodd yr anawsterau a gafwyd yn ystod y pandemig, effeithiau'r argyfwng Costau Byw a Chwyddiant.

 

Roedd casglu Ôl-ddyledion Rhent ar gyfer 2022/2023 wedi bod yn sefyllfa ôl-ddyledion rhent cronnus o ychydig dros £2 filiwn.  Roedd cynnydd o £124,000 yn yr Ôl-ddyledion Rhent ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) yn falch o adrodd bod ffigwr yr ôl-ddyledion terfynol ar ddiwedd blwyddyn  2022/23 yn is na'r ffigwr a osodwyd yn yr adroddiad blaenorol i graffu. Roedd yn bwysig nodi bod 20% o denantiaid wedi mynd i ôl-ddyledion, ond roedd y rhan fwyaf yn parhau i dalu ar amser.

 

Ychwanegodd fod nifer yr achosion o droi tenantiaid allan o’u tai wedi gostwng yn sylweddol gyda dim ond 2 achos o hynny’n digwydd, ac ailadroddodd fod pob dull posibl o ymgysylltu wedi'i ddefnyddio i osgoi achosion o droi allan.  Ychwanegodd hefyd fod y Cyngor bob amser yn ymdrechu i wneud y mwyaf o gasgliadau gan barhau i fod yn deg ar yr un pryd.

 

Mewn perthynas â diddymu dyledion, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) eu bod yn is na'r blynyddoedd blaenorol ac ychwanegodd fod rhai yn anochel os oedd unigolion wedi marw neu i’r rheiny a oedd yn destun gorchmynion rhyddhau o ddyled.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) hefyd y cynllun peilot incwm rhent sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd a oedd yn darparu ffordd arall o weithio er mwyn cael perthynas waith agosach gyda thenantiaid.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans, er yr ymddengys yn yr adroddiad bod lefelau ôl-ddyledion rhent rheoledig yn is, roedd yn pryderu am ôl-ddyledion y rheiny yn y braced o £2500 i £5000 a oedd yn ymddangos i fod wedi cynyddu.  Dywedodd ei bod yn ymddangos bod ôl-ddyledion yn gwaethygu ar ôl croesi ryw drothwy.  Gofynnodd hefyd beth oedd rhwymedigaethau'r Cyngor ar ôl i denant gael ei droi allan, a oedd dyletswydd ar y Cyngor i'w cartrefu, beth oedd lefel eu dyled ac a oedd dadansoddiad ar gael o'r rhesymau dros eu troi allan.  Dywedodd hefyd fod y cynllun peilot a amlinellwyd yn adran 1.09 o'r adroddiad yn swnio'n ddiddorol ac yr hoffai gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) fod y tabl o ôl-ddyledion rhent yn aml yn anodd ei esbonio gan fod tenantiaid yn aml yn symud i mewn ac allan o'r gwahanol gategorïau, sy'n ei gwneud yn anoddach i’w holrhain, ac ailadroddodd fod y Cyngor yn ymgysylltu'n gynnar.  Ychwanegodd nad oedd y Cyngor yn olrhain symudiadau tenantiaid ar ôl eu troi allan, ond dywedodd nad oedd y tenantiaid blaenorol hynny yn cael eu hailgartrefu gyda'r Cyngor ar hyn o bryd.  Awgrymodd y dylai gwybodaeth am y cynllun peilot incwm rhent gael ei hadrodd i'r Pwyllgor maes o law. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer y tenantiaid mewn ôl-ddyledion rhent o fwy na £5,000 a gofynnodd faint o'r tenantiaid hynny oedd yn destun gorchmynion llys ac yn talu swm bach o'r ôl-ddyledion ar ben eu rhent wythnosol.  Gofynnodd hefyd a oedd trothwy pan fyddai tenantiaid yn cael eu cymryd i'r llys i adennill yr ôl-ddyledion rhent.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) fod y tenantiaid hynny wedi bod i'r llys a’u bod ar gynllun talu i adennill y ddyled.  Esboniodd nad oedd ffigwr mympwyol ar gyfer mynd â thenantiaid i’r llys a bod y Cyngor yn canolbwyntio ar ymgysylltu yn lle hynny.  Roedd tenantiaid yn cael gorchymyn llys pan nad oeddent yn ymgysylltu â'r Cyngor i leihau'r ddyled.  

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau ar lefel yr ôl-ddyledion rhent ac amlinellodd y buddsoddiad sylweddol y gellid ei wneud i'r Cyfrif Refeniw Tai (HRA) pe bai ôl-ddyledion rhent yn cael eu lleihau.  Gofynnodd a fyddai modd darparu crynodeb mewn adroddiadau yn y dyfodol o'r tenantiaid hynny mewn ôl-ddyledion rhent o fwy na £5,000, gan amlinellu faint oedd yn destun gorchmynion llys a faint sy'n aros i gael eu troi allan ac ati. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar nifer y tenantiaid mewn ôl-ddyledion rhent o fwy na £5,000.  Er bod y Cyngor yn gwneud mwy i ymgysylltu â thenantiaid cyn gynted ag y maent yn mynd i ôl-ddyledion i atal y swm rhag cynyddu, teimlai fod nifer y tenantiaid mewn ôl-ddyledion allan o reolaeth.  Mynegodd bryder ynghylch yr ymateb a roddwyd i'r Cynghorydd Evans nad oedd tenantiaid sydd wedi'u troi allan yn cael eu holrhain a theimlai y dylai hynny fod yn digwydd er mwyn sicrhau bod yr ôl-ddyledion yn cael eu casglu.  Cytunodd â'r sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd ynghylch y buddsoddiad sylweddol y gellid ei wneud i'r Cyfrif Refeniw Tai a'r cymorth ariannol y gellid ei ddarparu i denantiaid a oedd yn cael trafferthion ariannol ond a oedd yn parhau i dalu eu rhent ar amser wythnos ar ôl wythnos.  Teimlai y dylai'r Cyngor fod yn mynd â thenantiaid i'r llys os nad oeddent yn ymgysylltu ac yn peidio â thalu eu rhent a gwnaeth sylwadau ar y rhwyd ????ddiogelwch sydd mewn lle ar gyfer y tenantiaid hynny na allent dalu.  Gofynnodd a fyddai modd darparu gwybodaeth am ad-daliadau mewn adroddiadau yn y dyfodol er mwyn amlinellu sut yr eir ar ôl tenantiaid sydd wedi gwneud difrod sylweddol i'w heiddo cyn symud er mwyn adennill y costau i ddod â'r eiddo yn ôl i ddefnydd. 

 

Anghytunodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) gyda'r sylw bod yr ôl-ddyledion rhent allan o reolaeth ond dywedodd fod sawl her am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad.  Awgrymodd y dylid cyflwyno adroddiad ar wahân ar ad-daliadau yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol ac eglurodd, er bod ad-daliadau yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai at ddibenion cyfrifyddu, mae system anfonebu mewn lle i ymdrin ag ailgodi tâl a sicrhaodd ef eu bod yn cael eu dilyn yn gadarn ac mewn rhai achosion bod hyn trwy achos Llys Sirol trwy CCJ.  Eglurodd ei ymateb i'r Cynghorydd Evans yngl?n ag olrhain tenantiaid a oedd wedi'u troi allan ac eglurodd fod dyled heb ei thalu yn cael ei chasglu lle bo hynny'n bosibl a bod trefniadau olrhain yn eu lle ar gyfer y tenantiaid hynny.             

 

            Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman na ddylai unrhyw denant fod mewn dyled o £5,000 neu fwy i'r Cyngor a gofynnodd ar ba adeg y byddai tenantiaid yn dechrau talu mwy ar ben eu rhent.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) fod y systemau sydd ar waith yn olrhain taliadau rhent tenantiaid ac yn tynnu sylw at y ffaith bod tenant wedi methu taliad sy’n galluogi cysylltu â'r tenantiaid hynny cyn gynted â phosibl.  Roedd y Cyngor yn gwneud yr hyn a allai i liniaru ac atal lefelau ôl-ddyledion rhent rhag symud i'r band nesaf, ond roedd hyn yn her, yn enwedig i'r tenantiaid hynny â budd-daliadau untro a chredyd cynhwysol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

            Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bateman ynghylch troi tenantiaid allan, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) fod angen i’r Cyngor gael cydbwysedd rhwng ei gyfrifoldeb fel landlord cymdeithasol a pheidio â throi tenantiaid allan i fod yn ddigartref.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer casgliadau rhent yn 2022-23, fel y nodir yn yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: