Manylion y penderfyniad

Childcare Sufficiency Assessment (CSA) 2022 – 26 - Annual Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an overview of the CSA Report and Action Plan (2022-2026), highlighting priorities and milestones.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd gyd-destun ehangach yr adroddiad ar sut yr oeddent yn bodloni’r ddyletswydd statudol ar gyfer yr awdurdod lleol o dan y Ddeddf Gofal Plant (2006).  Eglurodd bod eu ffocws bob amser ar ddwy elfen allweddol yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, sef:-

 

·         Darparu gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg, sy’n ymateb i anghenion rhieni.

·         Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy’n berthnasol i ofal plant i rieni a’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhianta neu’n gofalu am blentyn.

 

Amlygodd y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad gan roi cyd-destun ehangach o fewn y gwasanaeth a gyda phartneriaid allweddol eraill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Is-Gadeirydd yngl?n â chodau post a mynediad i ofal plant, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd eu bod yn gweithio’n galed i sicrhau nad oedd hynny’n digwydd ond eu bod yn cael eu dylanwadu gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn arweiniad y Llywodraeth.  Dywedodd eu bod yn cael nifer benodol o blant y gallent eu derbyn ac os nad oeddent yn cyrraedd y nifer hon roeddent yn gallu cyflwyno ymhellach.

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd hefyd a oedd darpariaeth neu gyfleusterau crèche ar gael i blant bach allu cymysgu gyda phlant mewnfudwyr tra bod eu rhieni yn cael gwersi Saesneg. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod cyfleusterau yn Nh? Calon a fyddai’n caniatáu ar gyfer cynnal gofal plant ochr yn ochr â rhaglenni rhianta ond byddai’n gwirio ynghylch darpariaeth crèche; nid oedd ychwaith yn ymwybodol o unrhyw alw mewn perthynas â phlant bach yn cymysgu gyda phlant mewnfudwyr ond byddai’n ymchwilio i’r mater. 

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am gyfranogiad gwahanol y sefydliadau penderfynwyd, oherwydd eu cymhlethdod, y byddai’n well aros tan y gweithdy i egluro hyn iddynt.  Wrth ymateb i’r cwestiwn arall a gododd am y defnydd o’r gair ‘tarfwr’ ym mharagraff 1.12, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd ei fod mewn perthynas â’r gwahaniaethau rhwng Cyfle Cynnar a’r Cynnig Gofal Plant, yn enwedig o amgylch y ffioedd.  Eglurodd fod Sir y Fflint wedi gwneud yn si?r bod y ‘tarfwr’ yn gadarnhaol ac wedi treialu cyfradd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfrannu i’r Rhaglen Cyfle Cynnar a dywedodd ei bod yn awr wedi cynyddu’n genedlaethol i gyd-fynd â’r Cynnig Gofal Plant fel bod y ddwy raglen yn awr yn talu’r un gyfradd.  Ychwanegodd fod Dechrau’n Deg hefyd wedi newid i gyd-fynd â’r un gyfradd.

 

Derbyniodd yr Is-Gadeirydd y cynnig i gynnal gweithdy a gofynnodd am gael ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a chytunodd yr Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd unrhyw hyfforddiant ar gyfer Gwarchodwyr Plant i helpu i gyfathrebu gyda rhieni a phlant nad ydynt yn siarad Saesneg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd y byddai’n anfon copi o gwricwlwm y Gwarchodwyr Plant ati er mwyn iddi gael gweld beth oedd yn ei gynnwys.  Nododd hefyd, o dan ddeddfwriaeth, bod cydraddoldeb wedi’i gynnwys yn rhan o broses gofrestru gwarchodwyr plant a chytunodd na ddylai rhwystr iaith fod yn bresennol wrth groesawu rhieni a phlant.  Dywedodd eu bod hefyd yn cynnal rhaglenni iaith o’r enw Eclan, a bod modd eu haddasu ar gyfer unrhyw iaith a Makaton oherwydd eu bod wedi canfod bod llawer o blant yn defnyddio iaith arwyddion wrth gyfathrebu gyda’i gilydd a gall rhieni ymuno â hyn hefyd.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Tina Claydon a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi effeithiolrwydd ymateb strategol y Cyngor i sicrhau gofal plant digonol a chynaliadwy o safon uchel o fewn y sir sy'n ymateb i anghenion plant a'u teuluoedd;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith parhaus ac ymrwymiad i ddarparu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd a’r Adroddiad Cynnydd blynyddol; a 

 

(c)       Bod gweithdy ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor yn cael ei drefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol, i’w gynnal yng Nghanolfan Westwood, Bwcle.

Awdur yr adroddiad: Gail Bennett

Dyddiad cyhoeddi: 27/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 20/07/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: